Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 6 Mawrth 2018.
Ni chredaf y bydd angen ichi ofidio y byddaf i'n hirwyntog, Dirprwy Lywydd. Roeddwn yn mynd i ddweud jôc, ond ni wnaf hynny.
Ni fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet gael gwybod na fyddwn yn cefnogi'r gyllideb atodol heddiw. Credaf ein bod ni wedi agor y rhych hwn o'r blaen, felly gwn y bydd ef yn deall hynny. Er hynny, rwy'n derbyn bod rhai agweddau yr ydym yn eu croesawu. Rydym yn sicr yn croesawu'r newidiadau a ddaeth gyda chyllideb hydref 2017 Llywodraeth y DU, y mae Cymru wedi elwa ar £1.2 biliwn ychwanegol yn yr ariannu dros y pedair blynedd nesaf yn ei sgil, ynghyd â £160 miliwn ychwanegol ar gyfer GIG Cymru ac awdurdodau lleol dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd symiau canlyniadol Barnett.
Wrth gwrs, ceir yma gynnydd mewn dyraniadau cyllidol a chyfalaf, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet. Ac rydym yn llawn ddeall y pwysau sydd wedi bod ar Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod ein bod ni yn aml yn y Siambr hon yn tynnu coes fel hyn ac fel arall am fethiannau—wel, yn eich achos chi, fethiannau Llywodraeth y DU, ac yn ein hachos ninnau fethiannau Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae'r holl Lywodraethau—y DU a Llywodraeth Cymru—wedi bod o dan bwysau oherwydd yr angen i ymdrin â'r diffyg ariannol dros y blynyddoedd diwethaf, ac i fantoli'r cyfrifon. Ni fu hwn yn gyfnod hawdd, ond rydym yn gwybod oherwydd y newyddion economaidd da a gafwyd yn y tridiau diwethaf fod cyllideb dros ben bellach o £3.8 miliwn—swm cymharol fychan o arian dros ben, ond serch hynny, yr arian dros ben cyntaf ers cryn amser, bron i 20 mlynedd. Felly, mae hynny i'w groesawu.
Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn derbyn mwy o arian drwy'r grant bloc, ac rydym yn croesawu, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, y fframwaith cyllidol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod wedi cefnogi hynny o'r cychwyn ac rwy'n fwy na pharod i ddweud fy mod i'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y gwaith caled a wnaed i ddatblygu'r fframwaith cyllid hwnnw dros gyfnod hir o amser. Gwn fod llawer wedi digwydd y tu ôl i'r llenni na ddaeth bob amser i sylw'r cyhoedd, ond rwyf i o'r farn fod hynny wedi bod er budd Cymru, a'r lle hwn a Llywodraeth Cymru ar eu gorau. Felly, mae yna newyddion da i'w gael.
Os caf i droi yn fyr at adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n cytuno â geiriau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Byddem yn hoffi gweld mwy o dryloywder yn y modd y pennir dyraniadau cyllideb atodol. Fe ddaw hyn yn gynyddol bwysig gyda'r datganoli o bwerau treth sydd ar fin digwydd fis nesaf—proses ac nid digwyddiad, os goddefir hen ymadrodd o hanes y Cynulliad. Bydd yn bwysig iawn gyda'r pwerau treth newydd hynny, a datganoli pwerau treth incwm, fod y broses mor dryloyw â phosibl, a bod y Pwyllgor Cyllid o dan y Cadeirydd, Simon Thomas, â rhan lawn i'w chwarae yn hynny. Rwyf yn falch fod adroddiad y pwyllgor wedi annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddal ati i archwilio pob ffordd o ddefnyddio'r arian sydd ar gael o fewn rheolau Trysorlys y DU.
Pethau rhyfedd yw cyllidebau atodol yn eu hanfod, ac felly y bydd hi byth mae'n debyg. Ond credaf fod yna awgrymiadau da yn yr adroddiad hwn y gellid eu hystyried ar gyfer cyllidebau atodol y dyfodol, ac rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Cyllid yn edrych ymlaen at weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar gyllidebau'r dyfodol er mwyn ceisio gwella'r strwythur a'r system o lunio cyllidebau.
Achos pryder yn y gyllideb hon ger ein bron yw rhywbeth sydd wedi cael ei bwysleisio yn y gorffennol, ac ar dudalen 16 yr adroddiad hwn. Mae'r diffygion ariannol y mae'r byrddau iechyd lleol ledled Cymru yn eu dwyn wedi bod yn destun pryder ers peth amser bellach, ac mae'n debyg y byddan nhw'n fater o bryder o hyd. Rydym ni, Geidwadwyr Cymru, yn pryderu y bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer y GIG, er bod croeso iddo, os nad ydym yn ofalus, yn mynd tuag at gau'r bylchau ariannol ac nid o reidrwydd yn codi safon gofal iechyd fel yr hoffem ni ei weld. Nid pwynt pleidiol yn unig o'm rhan i yw hwn. Gwn fod Mike Hedges ei hunan wedi mynegi pryderon am allu'r GIG i amsugno arian heb iddo fod yn gwbl dryloyw bob amser lle mae'r holl arian hwnnw yn mynd. Felly, rwy'n gwneud y cafeat hwnnw, er ein bod yn croesawu'r gwariant ychwanegol ar y GIG. Felly, da o beth fyddai inni gael sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet y gwneir yn fawr o'r arian newydd hwn.
Beth bynnag, nodais ar y dechrau mai safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig ar y gyllideb hon yw, er ein bod yn croesawu'r arian ychwanegol heddiw, na fyddwn yn cefnogi'r gyllideb. Byddwn yn atal ein pleidlais, oherwydd yn ein barn ni, er mai cyllideb atodol yw hi, mae'n dilyn y brif gyllideb flaenorol nad oeddem ni yn ei chefnogi.