Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 6 Mawrth 2018.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gael y ddadl hon yn y Siambr heddiw? Yn wir, rwy’n cefnogi’n llawn y gwelliant a gyflwynwyd gan grŵp Plaid Cymru.
Rwyf bob amser yn pryderu wrth godi adroddiad blynyddol gan Estyn a gweld byrdwn o bethau sydd wedi cael eu dweud yn y gorffennol, oherwydd mae'n awgrymu nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud, ac rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet ac eraill yn y Siambr hon yn pryderu am hynny. Rhaid inni atgoffa ein hunain, ydym, rydym ni wedi gweld rhai gwelliannau, ond ni ddylem ni byth anghofio methiannau, a dweud y gwir, Llywodraethau Llafur olynol, yn y blynyddoedd diwethaf, i ddatrys y problemau yn ein system addysg ledled Cymru.
Rydym ni'n gwybod bod ein canlyniadau PISA, yn 2016, yn waeth nag yr oeddent ddegawd ynghynt. Rydym ni'n gwybod ein bod, y llynedd, wedi gweld ein canlyniadau TGAU gwaethaf ers degawd. Rydym ni'n gwybod bod yr adroddiad Estyn hwn yn awgrymu, wrth ichi gymharu’r niferoedd yno, fod 160 yn llai o ysgolion cynradd yng Nghymru nag a oedd yn ôl ym mis Ionawr 2011—mae 160 o ysgolion wedi cau, ac roedd llawer o'r rheini’n ysgolion boddhaol â safonau da iawn. Nawr, wrth gwrs, roedd yn gwbl briodol bod rhai ysgolion wedi gorfod cau oherwydd nad oeddent yn diwallu anghenion cymunedau lleol, ond mae gen i rai pryderon am hynny. Rwyf hefyd yn pryderu, os edrychwn ni ar yr ysgolion sy'n destun mesurau arbennig yng Nghymru, ei bod yn ymddangos bod yr arolygiaeth, y consortia rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol yn methu â gwella’r ysgolion hynny’n ddigon cyflym. Mae gennym ddwy ysgol, er enghraifft, sy’n destun mesurau arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd—mae un ohonynt yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet—sydd wedi bod yn destun mesurau arbennig ers 2014. Mae hwnnw'n gyfnod hir i blant fod mewn ysgolion nad ydynt yn perfformio'n foddhaol. Mae hynny'n annerbyniol. Felly, yn amlwg mae her sylweddol yn ein hwynebu yng Nghymru i ddatrys y problemau hyn.
Rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fod gennych adolygiad o Estyn, fel arolygiaeth, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr adolygiad hwnnw, a phryd yr ydych chi'n disgwyl cael argymhellion o’r adolygiad hwnnw, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod Estyn yn addas at ei ddiben. Rwy’n ddiolchgar i Estyn am y gwaith y mae'n ei wneud, rwy’n ddiolchgar am yr ymyriadau angenrheidiol y mae'n eu gwneud yn ein hysgolion, ond rwy'n meddwl y dylai fod rhai o'r materion hyn, a dweud y gwir, wedi eu datrys erbyn hyn gyda chymorth Estyn. Ac, wrth gwrs, fel y dywedaf, rwy’n ddiolchgar bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud mewn rhai meysydd, ond nid yw’n ddigon cyflym o bell ffordd. Nid yw’n ddigon cyflym o bell ffordd i’r bobl ifanc hynny sydd yn ein system addysg ar hyn o bryd.
Nawr, mae rhan o hynny, wrth gwrs, fel y dywedodd Llyr Huws Gruffydd yn gwbl gywir, o ganlyniad i gyllid. Rydym yn gwybod, am bob £1 sy’n cael ei gwario ar y system addysg yn Lloegr, fod £1.20 yn dod i Gymru fel bod gennym y cyfle i wario mwy ar ein plant yma. Ac eto, er gwaethaf hynny, yn ôl yr undebau, mae bwlch gwariant o £678 fesul dysgwr yng Nghymru o gymharu â’r buddsoddiad a wneir dros y ffin yn Lloegr. Rwy’n meddwl mai dyna, yn rhannol, pam mae gennym ganlyniadau mor wael yma, a dweud y gwir, o ran y deilliannau i’n plant. Nid yw'n ddigon da ac mae angen inni ddeall pam nad yw addysg yn cael y math o flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru sydd ei hangen o ran rhannu cacen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllidebau.
Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet, yn yr wythnos ddiwethaf, wedi darparu £14 miliwn ychwanegol i'n hysgolion, ac mae’r cam hwnnw i'w groesawu'n fawr, yn enwedig o ystyried y toriadau gwerth £15 miliwn a gaiff eu gwneud o ganlyniad i'r newid i’r grantiau gwella addysg. Ond, unwaith eto, rwy’n meddwl, hyd yn oed gyda hynny, fod gennym y bwlch llydan iawn hwn fesul dysgwr o gymharu â Lloegr o hyd, ac rwy’n meddwl bod angen i’r Llywodraeth egluro pam.
Mae Llyr Huws Gruffydd eisoes wedi cyfeirio at nifer o'r pwyntiau yr oeddwn i eisiau rhoi sylw iddynt, ond un o'r rhai syfrdanol, rwy'n meddwl, y mae angen inni ganolbwyntio llawer mwy arno yw dysgu oedolion a’r sector addysg bellach. Nawr dyma, rwy’n meddwl, yr un rhan o'r system addysg yng Nghymru sy’n arwain y ffordd, os mynnwch chi, o ran ansawdd arweinyddiaeth, o ran ei deilliannau i’n dysgwyr, ac ys gwn i, Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y gwnewch chi harneisio'r cyfle sydd yna i weithio gyda'r sector addysg bellach i sicrhau gwelliannau ac i sbarduno gwelliannau yn ein hysgolion? Rydym ni'n gwybod bod gennym strategaeth ddiwydiannol yma yng Nghymru. Mae angen ategu honno â rhywfaint o’r gwaith sy'n digwydd yn ein sector addysg bellach, ac yn enwedig o ran dysgu oedolion, rwy’n meddwl bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn tracio pobl drwy'r system i weld faint o bobl ifanc sy’n mynd drwy addysg bellach ac yn mynd i gyflogaeth. Dydy’r wybodaeth hon ddim yn cael ei chasglu fel mater o drefn gan Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, mae Estyn wedi sôn am hyn yn eu hadroddiad. Rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y byddem ni'n hoffi eich gweld yn ei ystyried yn y dyfodol.
Pan ddaw i addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon, efallai y gwnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am achredu’r cyrsiau newydd, hefyd, yn ein prifysgolion. Rwy’n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi bod yn ei ystyried ar hyn o bryd, ac, yn amlwg iawn, mae angen inni adfer enw da ein hyfforddiant cychwynnol i athrawon yng Nghymru. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni pa mor hyderus yr ydych bod y cyrsiau newydd sy'n cael eu hachredu’n mynd i helpu ni i ddatrys ein problem recriwtio, oherwydd dydyn ni ddim yn gallu denu’r bobl i'r proffesiwn y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol.