8. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2016-17

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:15, 6 Mawrth 2018

Ar y llaw arall, wrth gwrs, fel y mae hi hefyd wedi cydnabod, mae yna elfennau llai positif. Un o’r agweddau mwyaf, efallai, siomedig i fi yw—. Hynny yw, yn amlwg mae hanner ysgolion uwchradd a 70 y cant o rai cynradd yn cael eu barnu’n 'dda' neu’n 'rhagorol', ond, wrth gwrs, mae hynny’n golygu bod hanner o’r ysgolion hefyd, fel yr oedd hi’n cydnabod, ond yn 'ddigonol' neu, yn wir, yn 'anfoddhaol'. Ac yn y cyd-destun hwnnw, wrth gwrs, mae Estyn yn ein hatgoffa ni fod hynny’n gyson â’r canlyniadau ers 2010. Felly, er ei bod hi’n dweud eu bod yn well na'r flwyddyn ddiwethaf, nid ydym wedi gweld y cynnydd efallai y byddai nifer ohonom wedi gobeithio—dros y cyfnod hirach, beth bynnag.

Mae amrywiad, hefyd—variability—wrth gwrs, yn dal i fod yn broblem. Mae’n bwnc sy’n cael ei godi bob blwyddyn, bron iawn, pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi, ac mae rhywun yn teimlo erbyn hyn, efallai, y dylem ni fod yn gweld ychydig mwy o wella ar y ffrynt yna.

Mae amser yn gymharol brin i ddelio gyda phopeth, so fe wnaf i jest ffocysu ar un neu ddau o agweddau.

Mae’r sylwadau ar y cyfnod sylfaen yn rhai mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio atyn nhw. Mae pawb yn cydnabod, wrth gwrs, bwysigrwydd addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel fel blaenoriaeth, a’r effaith mae hynny’n ei gael ar ddatblygiad a chyrhaeddiad tymor hir disgyblion. Mae gweld datganiadau yn yr adroddiad blynyddol—. Er enghraifft, mae'r un sy’n tynnu sylw at y ffaith, mewn tri chwarter o ysgolion, nid yw penaethiaid yn llawn ddeall egwyddorion ac addysgeg arfer da'r cyfnod sylfaen yn reit frawychus, fel rwy'n ei ddweud. Mae angen mwy o ffocws ar hyn, rwy’n meddwl, ac mae angen mynd i’r afael â hyn, oherwydd mae’r cyfnod sylfaen wedi cael trafferthion yn y gorffennol, fel rŷm ni'n gwybod. Ond hefyd mae cyfeiriad yn yr adroddiad at yr effaith uniongyrchol mae rhai o’r toriadau cyllidebol yn eu cael ar hynny. Er enghraifft, yn sôn bod yna lai o athrawon cymwysedig nawr yn ymwneud â’r cyfnod sylfaen o ganlyniad i rai o'r toriadau ariannol. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd yn gwbl i'r gwrthwyneb o'r naratif rŷm ni'n ei glywed ac mae nifer ohonom ni'n awyddus i'w weld yn cael ei wireddu, o safbwynt creu'r gweithlu mwy cymwysedig yma, er mwyn, wrth gwrs, i hynny gael dylanwad positif ar gyrhaeddiad addysgol.

Yn y cyd-destun yna, os caf i jest holi'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â’r cynnig gofal plant. Nawr, rwy’n gwybod nad yw’n rhan o’i phortffolio hi’n uniongyrchol, ond mae goblygiadau llwyddiant, neu fel arall, y polisi hwnnw ar y blynyddoedd cynnar mewn addysg ac mewn ysgolion, yn cael effaith uniongyrchol. Yn amlwg, rŷm ni fel plaid yn awyddus i weld hwnnw’n gynnig sydd yn cael ei estyn i bawb, nid dim ond i rieni sy’n gweithio. Mi wrthododd yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a’r Gweinidog plant, yn y pwyllgor ieuenctid yn ddiweddar, rannu’r uchelgais hwnnw fel nod hirdymor. Byddwn i jest yn licio gwybod beth yw eich barn chi ynglŷn â hynny. A ydych chi'n cytuno gyda'r comisiynydd plant, er enghraifft, ac Achub y Plant yng Nghymru hefyd, sydd oll yn dweud bod yna risg gwirioneddol y bydd y bwlch cyrhaeddiad wedi agor ymhellach rhwng y plant mwyaf difreintiedig, o gartrefi sydd ddim â rhieni’n gweithio, wrth gwrs, os nad ydyn nhw hefyd yn cael mynediad i’r cynnig gofal plant—efallai ddim yn syth, ond yn sicr fel uchelgais mwy tymor canol?

Rwy'n cydnabod bod gwelliant Plaid Cymru, mae'n bosib, yn un o'r gwelliannau lleiaf dadleuol mae'r Cynulliad yma wedi'i weld mewn tipyn o amser, ond, yn sicr, mae e'n crynhoi i fi un o’r prif agweddau sydd yn mynd i galon yr adroddiad. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod hynny, i raddau, yn ei sylwadau agoriadol, sef, wrth gwrs, yr angen i wella’r gefnogaeth o ran datblygiad proffesiynol, a hefyd i wella recriwtio a hyfforddi cychwynnol i athrawon newydd. Bron iawn fod yna restr o enghreifftiau o wendidau yn y maes yna sy’n cael effaith ar, er enghraifft, dysgu rhifedd—mae yna gyfeiriad at ddiffyg gwybodaeth a hyder mathemategol athrawon, sydd yn rhywbeth sydd angen ei ddatrys; y ffaith nad yw athrawon yn cael eu harfogi â’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu ystod o dechnoleg gwybodaeth sydd yn angenrheidiol mewn ysgolion. Rwyf wedi cyfeirio at rai o'r sylwadau ynglŷn â'r cyfnod sylfaen yn gynharach, a hefyd, wrth gwrs, y diffyg cynllunio ym maes addysg Gymraeg, sydd yn rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd wedi'i gydnabod yn benodol hefyd—y diffyg recriwtio a hyfforddi athrawon cyfrwng Cymraeg. 

Mwy o'r un problemau rŷm ni wedi eu cael eto eleni yn yr adroddiad, mewn gwirionedd, i'r hyn rŷm ni wedi'i glywed yn y blynyddoedd diwethaf. Felly, nid yw'r cynnydd yn yr agweddau yma wedi digwydd mor sydyn, rwy'n siŵr, ag y byddai rhai ohonom ni'n ei ddymuno. Mae rhywun yn cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cymryd camau i fynd i'r afael â rhai ohonyn nhw, ond y neges greiddiol yr ydw i'n ei chymryd o'r adroddiad yma yw, wrth gwrs, os nad ŷm ni'n mynd i'r afael â rhai o'r problemau sylfaenol, megis ariannu digonol i ysgolion yng Nghymru, megis recriwtio a chadw athrawon yn fwy effeithiol o fewn y sector, yna y risg yw y bydd rhai o'r gwelliannau rŷm ni'n dechrau eu gweld yn dod i'r amlwg yn y sector yn ddim byd mwy nag adeiladu tŷ ar dywod.