Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 6 Mawrth 2018.
Rwy’n croesawu’r cyfle i gael dadl am adroddiad blynyddol Estyn heddiw. Ar ôl treulio 16 mlynedd mewn ystafell ddosbarth fel athrawes ysgol uwchradd, rwy’n gwybod yn iawn sut beth yw disgwyl am arolwg. Felly rwy’n croesawu’r newid i fod yn awr mewn sefyllfa lle rwy’n ystyried gwaith Estyn yn eu tro.
Er gwaethaf y tarfu, mae gan arolygon ysgolion ran hanfodol i'w chwarae. Maent yn taflu goleuni ar arferion gorau fel y gallwn ganmol beth sy'n dda, ac yn bwysicach maent yn gweithio i ledaenu’r eithriadol drwy holl system addysg Cymru. Maent hefyd yn rhoi cyfle inni i fonitro cynnydd, i ddangos beth sy’n anghywir, yn annerbyniol neu ddim yn gweithio, ac i wneud newidiadau lle mae eu hangen i sicrhau deilliannau gwell i ddysgwyr ac i'r gweithlu addysgol.
Mae'r adroddiad hwn yn dangos y gallwn fod yn falch o lawer yn ein system addysg. Mae’r ymrwymiad i godi safonau’n cael ei rannu gan bob adran. Yn wir, mae'r adroddiad yn nodi’r ysbryd cydweithredu o ran y cwricwlwm newydd. Mae'r adroddiad hefyd yn disgrifio momentwm cadarnhaol i wella. Mae ymyriadau polisi a diwygiadau gan Lywodraeth Cymru yn cael effeithiau buddiol. Mae gweithredu i wella arweinyddiaeth yn cael ei groesawu.
Yn fy mhrif sylwadau, hoffwn ganolbwyntio ar dri maes yn yr adroddiad. Y cyntaf o'r rhain yw ymdrin ag effeithiau anfantais. Mae'r adroddiad yn nodi bod hyn yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac mae hynny’n gwbl briodol. O fy ngyrfa addysgu fy hun, rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth rhwng deilliannau disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion. Mae gwahaniaethau o'r fath yn annheg ac yn annerbyniol. Dylid croesawu’r ffaith bod ysgolion nawr yn canolbwyntio mwy ar unioni hyn nag yr oeddent saith mlynedd yn ôl, a’u bod yn gwneud ymyriadau ac yn benderfynol o wella perfformiad. Fel y mae Estyn yn ei nodi, mae hyn yn golygu bod deilliannau disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gwella ar bob cam addysg.
Fodd bynnag, fel y mae’r adroddiad yn ei nodi, mae rhai ysgolion yn arwain y ffordd ar hyn. Maent yn cymryd camau cadarnhaol ynghylch presenoldeb. Maent yn gweithredu drwy weithio gyda'r gymuned leol. Mewn rhai achosion, hyd yn oed, derbynnir ymyriadau cyn i blant ddechrau yn yr ysgol. Rhaid rhaeadru'r gwersi hyn drwy'r system gyfan. Mae hwn hefyd yn faes lle mae'n rhaid inni sicrhau ymagwedd gydgysylltiedig ar draws pob maes polisi; mae ymdrin ag effeithiau anfantais yn gofyn am ymagwedd wirioneddol gyfannol.
Mae clybiau cinio a hwyl Llywodraeth Cymru yn ymyriad rhagorol, gan gynnig gweithgareddau gwerth chweil dros yr haf i blant cymwys fel nad ydynt yn colli unrhyw gynnydd a wnaethant yn ystod y tymor ym misoedd yr haf. Yn bwysig, maent hefyd yn cyfrannu at ymdrin â newyn gwyliau. Rydym yn gwybod bod banciau bwyd yn cael eu defnyddio’n fwy yn ystod misoedd yr haf. Soniais yn ystod y sesiwn cwestiynau yr wythnos diwethaf am brosiect peilot sy’n cael ei gynnal yng Ngogledd Swydd Lanark gyda’r nod o fwydo disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar bob un o 365 diwrnod y flwyddyn. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn talu sylw agos i'r prosiect hwn. Ni all plant a phobl ifanc ddysgu'n effeithiol os ydynt yn llwglyd.
Yn ail, hoffwn gyfeirio at yr adran ar ysgolion uwchradd. Canfu Estyn fod dros hanner ysgolion uwchradd Cymru nawr yn dda neu'n well. Yn yr un modd, mae'n braf bod canran yr ysgolion rhagorol yn 2016-17 yn uwch na chyfartaledd 2010-17, ond ar y llaw arall mae Estyn hefyd wedi sylwi ar gynnydd cyffredinol mewn arfer anfoddhaol. Ni ellir derbyn hyn, a rhaid cefnogi’r ysgolion hyn fel y gallant newid yn gyflym a sicrhau y gall eu myfyrwyr gyflawni eu gwir botensial. Rhaid i’r agwedd gadarnhaol at ddysgu y mae’r adroddiad yn ei nodi ymysg pobl ifanc mewn ysgolion da fod yr isafswm yr ydym yn anelu ato, a chyflawni i bawb yng Nghymru.
Roedd fy ngyrfa addysgu hefyd yn cynnwys swyddogaeth fugeiliol sylweddol, a gwn yn iawn pa mor bwysig yw hyn i sicrhau lles ein disgyblion ym mhob agwedd. Mae'n dda gweld bod lles, gofal, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion yn nodweddion mor amlwg gadarnhaol yn ystod y cylch arolygu tymor hwy.
Yn drydydd, hoffwn sôn am sylwadau'r adroddiad am ddysgu seiliedig ar waith; rwy’n meddwl bod hyn yn elfen bwysig iawn os ydym am gyflawni’r gweithlu hyblyg a medrus sydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Mae Estyn yn dweud, yn ystod 2010-17, fod safonau'n dda neu'n well mewn tua hanner y darparwyr. Fodd bynnag, o'r tri darparwr a arolygwyd yn 2016-17, dim ond dau oedd yn ddigonol ac roedd y trydydd yn anfoddhaol. Er bod nifer y darparwyr a arolygwyd yn ystod y flwyddyn yn golygu ein bod ni'n sôn am sampl bach iawn, ni allwn ddiystyru'r canfyddiadau hyn yn llwyr. Fel y dywed Estyn:
'Lle mae safonau'n anfoddhaol, nid yw dysgwyr yn gwneud cynnydd digon cryf.'
Mae darparu dysgu seiliedig ar waith yn rhywbeth y mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi ei ystyried yn fyr yn ystod ein hymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru. Rwy’n gobeithio bod hwn yn bwnc y gallwn ddychwelyd ato, oherwydd mae Estyn yn dangos testun pryder clir yma. Rwy’n gobeithio ei fod yn faes lle bydd y canlyniadau’n fwy cadarnhaol yn arolygiad nesaf Estyn.