Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 6 Mawrth 2018.
Roeddwn yn falch iawn o ddarllen yn yr adroddiad blynyddol bod cydffederasiwn Bryngwyn a Glan y môr yn fy etholaeth i yn Llanelli a Phorth Tywyn wedi cael sylw am ei arfer da ar arweinyddiaeth; bod hen ysgol gynradd Ysgrifennydd y Cabinet, Ysgol y Bynie, wedi cael sylw; a bod ysgol arbennig Heol Goffa hefyd wedi cael ei chrybwyll yn arbennig. Mae gennym arweinyddiaeth ac arfer rhagorol yn Llanelli a ledled Cymru.
Ond hoffwn i ganolbwyntio ar y meysydd pryder sylweddol yn yr adroddiad hwn, ac yn enwedig ynglŷn â digidol. Rwy’n meddwl, fel yr awgrymodd Darren Millar yn gynharach, nad oes pwynt inni seboni'r ddadl hon; mae angen inni fod yn llym ac anfaddeugar wrth edrych ar y gwendidau, ac a dweud y gwir mae’r hyn y mae’r adroddiad hwn yn ei ddweud eto fyth am ddysgu digidol yn fy nychryn.
Mewn ychydig llai na dau draean o ysgolion cynradd mae, ac rwy’n dyfynnu, 'diffygion pwysig' o ran safonau TGCh. Dau draean o ysgolion cynradd—diffygion pwysig mewn TGCh. Dyma mae Estyn yn ei ddweud: 'Yn yr ysgolion hyn'—ac mewn llawer o ysgolion uwchradd—'mae diffyg gwybodaeth a hyder gan athrawon.' Ceir
'diffyg gweledigaeth glir am TGCh gan uwch arweinwyr.'
Dydy disgyblion ddim yn cael y cyfle i gymhwyso sgiliau mewn cyd-destunau perthnasol. Mae'n mynd ymlaen: ar draws ysgolion Cymru gyfan, dydy cynnydd TGCh disgyblion ddim wedi cadw i fyny â datblygiadau technoleg, ac
'nid yw disgyblion yn cymhwyso eu...sgiliau’n dda ar draws y cwricwlwm ac mae eu sgiliau TGCh yn aml yn gyfyngedig i ystod gul o gymwysiadau.'
Mae hefyd yn dweud nad yw ysgolion yn archwilio cymhwysedd digidol eu staff i ganiatáu iddynt hyfforddi athrawon a gwella eu sgiliau, ac nid yw canolfannau hyfforddiant cychwynnol i athrawon ychwaith yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen i athrawon dan hyfforddiant.
Dylem adael i hynny dreiddio i’r cof, Llywydd. Ceir diffygion pwysig mewn dau draean o ysgolion cynradd, ac mewn llawer o ysgolion uwchradd mae gan athrawon ddiffyg gwybodaeth a hyder. Mae hyn yn frawychus. Dylai unrhyw un o'r brawddegau hynny, ar unrhyw ddiwrnod newyddion arferol, hawlio’r penawdau fel achos o bryder enfawr, yn enwedig o ystyried yr hyn a wyddom am ba mor hanfodol yw sgiliau digidol eisoes, a’u bod yn mynd yn fwy felly bob mis. Mae’r disgrifiad hwn o sut y mae ein hysgolion yn addysgu pobl ifanc yn peri gofid mawr. Rwyf wir yn meddwl bod hon yn foment stopiwch-y-clociau, Llywydd. Rydym yn sôn am system hunanwella, ond does fawr o arwydd o welliant o ran sgiliau digidol. Roedd adroddiad y llynedd yn dweud llawer o'r un peth.
Nawr, mae lle i feirniadu Llywodraeth Cymru yma, a dof at hynny mewn munud, ond yn bennaf oll mae’r system ysgolion gyfan yn euog o fethu ag ymateb i'r her hon: y consortia; llywodraethwyr; penaethiaid; gweithwyr proffesiynol unigol. Nid yw hyn yn ddigon da.
Rwyf wedi sôn am hyn wrth y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet—yr angen i sicrhau bod gan ddisgyblion sgiliau codio—ar nifer o achlysuron, ac mae’r feirniadaeth hon yn mynd ymhell y tu hwnt i godio; mae'n mynd ar draws yr holl sbectrwm digidol. Dim ond un is-set bwysig yw codio. Fis Mehefin diwethaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ‘Cracio’r cod’ a oedd yn rhannu £1.3 miliwn dros dymor cyfan y Cynulliad i helpu i ddatblygu'r sgiliau hyn cyn i'r cwricwlwm newydd gyrraedd, a £930,000 arall i’r Technocamps—gyda'i gilydd, ychydig dros £2 miliwn i Gymru gyfan dros y tair blynedd nesaf. Maen nhw hefyd yn treialu Minecraft ar gyfer Addysg i ysbrydoli pobl sy’n codio am y tro cyntaf ag adeiladwr cod Minecraft, ac o wybod pa mor frwdfrydig yw fy mhlant i dros Minecraft, rwy’n meddwl bod hon yn fenter ragorol, yr union fath o beth y dylem fod yn ei wneud. Ond mae’n cael ei gynnal mewn 10 ysgol. Deg ysgol. Mae dros 1,600 o ysgolion yng Nghymru, ac rydym yn cynnal y prosiect codio hwn mewn 10 ohonynt. Unwaith eto, nid yw hyn yn ddigon da.
Yn union fel roedd olew’n danwydd i’r oes ddiwydiannol, mae data a digidol yn danwydd i ddatblygiadau yn yr oes deallusrwydd artiffisial. Mae yna reswm pam mae Tsieina yn addysgu deallusrwydd artiffisial a dysgu dwfn yn eu hysgolion canol. Rydym yn rhoi pobl ifanc dan anfantais enfawr drwy beidio â rhoi’r sgiliau a'r hyder iddynt i ffynnu yn y byd hwn.
Ac rydym yn colli cyfle hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, drwy beidio â harneisio datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannau yn y ffordd yr ydym yn addysgu. Mae newyddbethau edtech fel y'u gelwir yn cynnig yr addewid o ryddhau athrawon o ormes marcio, tracio data a datblygu strategaethau addysgu gwahaniaethol ar gyfer dysgwyr unigol. Gall edtech wneud hyn i gyd. Gallwn ni ryddhau athrawon o hyn i gyd i wneud yr hyn y daethant i’w wneud—i addysgu. Dylem fod yn awyddus iawn i wneud hyn, ond, fel y mae canfyddiadau gwirioneddol arswydus Estyn yn ei ddangos eleni eto fyth, dydyn ni ddim.