Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 6 Mawrth 2018.
Wel, Llywydd, rwy'n gobeithio bod gan y Bil gymal machlud wedi ei ymgorffori'n rhan ohono yn yr ystyr fy mod yn dal yn gobeithio y byddwn yn dod i gytundeb â Llywodraeth y DU a chyda Llywodraeth yr Alban ynglŷn â gwelliannau y gallem ni eu cyd-gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi. Byddai'r rheini'n gwneud y Bil parhad yn ddiangen oherwydd byddem wedi cyflawni ein hamcanion mewn ffordd arall, ac rydym ni wedi credu erioed fod y ffordd honno'n ffordd well. Fodd bynnag, rwyf bob amser yn awyddus i wrando ar sylwadau y mae'r Aelodau yn eu gwneud ynglŷn â'r Bil hwn a ffyrdd y gellid rhoi ystyriaeth bellach iddo pe byddai'r Cynulliad yn penderfynu heddiw rhoi caniatâd i'w gyflwyno ar sail brys ac yn unol â'r amserlen a fyddai'n ofynnol yn hynny o beth. Mae'r amserlen yr ydym ni'n ei hargymell yn caniatáu cyfle i drafodaethau barhau rhwng y deddfwrfeydd ac i'r Senedd ystyried cryfder y teimlad yng Nghymru ac, felly, i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol o ran Bil ymadael yr EU.
Nawr, Llywydd, wrth gwrs rwy'n cydnabod nad yw cyflwyno'r Bil LDEU ar ffurf Bil brys yn ddelfrydol, a dyna pam rwy'n dweud, unwaith eto, mai'r sefyllfa ddelfrydol i ni o hyd yw cael Bil Llywodraeth y DU sy'n parchu datganoli. Byddwn yn parhau i weithio gyda hynny mewn golwg nes disbyddu pob posibilrwydd o'i wella'n llwyddiannus. Ond mae methiant Llywodraeth y DU i weithredu i fynd i'r afael â'n pryderon yn golygu bod angen y Bil LDEU ar frys erbyn hyn. Os na ellir ei drin fel Bil brys, ni ellir ei gyflwyno o gwbl. Gallai'r gost o beidio â gwneud hynny fod yn uchel iawn: tanseilio'r setliad datganoli presennol yn sylfaenol.
Ynghylch y cynnig o ran yr amserlen, rwy'n gofyn i'r Aelodau ei gefnogi oherwydd mae'n angenrheidiol craffu ar y Bil a'i gyflwyno i'r Cynulliad cyn gynted â phosib. Pan fydd amserlen gennym ni, yna byddaf yn gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae'r Aelodau'n ei ddweud amdano, gan gynnwys yr hyn a ddywedir y prynhawn yma, ond, heb amserlen, mae'r Bil hwn yn sownd heb fan cychwyn; ni fydd y trên byth yn gadael yr orsaf, ac aiff ei holl ddiben i'r gwellt cyn iddo ddechrau. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau gytuno ar y defnydd o'r weithdrefn Bil brys a'r amserlen arfaethedig ar gyfer rhoi'r broses ffurfiol ar waith.
Yn fwy cyffredinol, Llywydd, mae'r penderfyniad i gyhoeddi'r Bil ar ffurf ddrafft yr wythnos diwethaf yn golygu ein bod eisoes wedi dechrau trafod ei gynnwys. Roeddwn yn ddiolchgar o gael y cyfle i ateb cwestiynau gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddoe. Os cytunir ar gynigion heddiw, caiff y Bil ei gyflwyno'n ffurfiol yfory. Ddydd Llun wythnos nesaf, byddaf yn mynd i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, lle creffir ar y Bil. Ddydd Mawrth, bydd y Cynulliad cyfan yn gallu trafod rheolaethau sylweddol y Bil yn erbyn y cynnig Cyfnod 1. Ond, Llywydd, ni all dim o hynny ddigwydd oni bai y gellir cytuno heddiw ar ddefnyddio gweithdrefn Bil brys a'r amserlen sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddau gynnig fel y gellir dechrau ar y gwaith hanfodol hwn, gwaith o bwysigrwydd mawr a chryn frys.