– Senedd Cymru am 5:58 pm ar 6 Mawrth 2018.
Felly rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i wneud y cynigion. Mark Drakeford.
Cynnig NDM6672 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn:
Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.
Cynnig NDM6673 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn:
Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn cynrychioli'r her fwyaf sylweddol a dyrys, yn gyfansoddiadol, yn gyfreithiol ac yn economaidd yr ydym ni yng Nghymru wedi'i hwynebu ers dyfodiad datganoli. Mae gan yr ansicrwydd sy'n amgylchynu'r broses a'r canlyniad y potensial i achosi niwed mawr i'n cenedl. Maint yr her, yr ansicrwydd parhaus, datblygiad cyflym digwyddiadau a'r peryglon posib sy'n gysylltiedig â Brexit sy'n ffurfio cefndir i'r cynigion a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn y prynhawn yma. Llywydd, mae'r rhain yn amseroedd hynod anarferol, a natur yr amseroedd hyn sy'n esbonio'r cynnig hynod anarferol bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cydsynio i Fil brys.
Fel y nodir yn y datganiad a gyflwynwyd ochr yn ochr â'r cynigion, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn, ers mis Mehefin 2016, fod canlyniad y refferendwm yn golygu ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd. Ond nid oedd y bleidlais i adael yr UE yn bleidlais i wrthdroi datganoli. Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth hon, ac ar y Cynulliad hwn, rwy'n credu, i sicrhau, wrth ymadael, fod buddiannau Cymru a'i phobl yn cael eu hamddiffyn cyn belled â phosib.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Yn y trafodaethau a'r cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU, a wnewch chi roi addewid inni na fyddwch chi'n derbyn bargen wael i Gymru? Ac felly a wnewch chi gytuno i beidio â chyflwyno'r Bil parhad hwn dim ond os yw Bil ymadael yr UE naill ai'n diogelu neu'n gwella'r setliad datganoli hwn?
Llywydd, wrth gwrs, nid wyf byth yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth gyda'r bwriad o gael bargen wael i Gymru, a byddaf yn parhau i weithio gyda chydweithwyr mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr y caiff Bil ymadael yr UE ei ddatblygu yn y fath fodd fel y gallem ni ei argymell i'r Cynulliad hwn, ac os na allwn ni gyflawni hynny yna ni wnawn argymhelliad o'r fath i chi.
Llywydd, nid diben y Bil gerbron y Cynulliad, os oes cytundeb arno heddiw, yw llesteirio Brexit, nid ei nod yw gohirio Brexit; yn hytrach mae'n ymgorffori ein cydnabyddiaeth bod angen deddfwriaeth er mwyn rhoi sefydlogrwydd cyfreithiol a dilyniant wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n hollbwysig bod y llyfr statud yn rhoi eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau yn ystod y cyfnod digynsail hwn o newid.
Barn Llywodraeth Cymru ers tro byd yw mai deddfwriaeth gan y DU fyddai'r ffordd orau o sicrhau dilyniant, sefydlogrwydd a sicrwydd. Felly, bu'n siom enfawr bod Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a luniwyd gan Lywodraeth y DU, a ddylai fod wedi bod yn gyfrwng i sicrhau'r parhad cyfreithiol hwnnw, wedi'i ddrafftio yn hytrach yn y fath fodd fel ei fod yn tanseilio'r setliad datganoli presennol ac mae ynddo'i hun yn ffynhonnell o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd.
Mae'r gwaharddiadau a'r cyfyngiadau y mae'n eu gosod ar bwerau'r Cynulliad hwn a Gweinidogion Cymru i ddeddfu ar faterion sydd wedi eu datganoli inni ers amser maith yn gwbl annerbyniol. Mae'r pwerau y mae'n eu rhoi i Lywodraeth y DU arfer rheolaeth o'r deddfau a'r cyfrifoldebau polisi sydd wedi'u datganoli yr un mor annerbyniol. Ers cyflwyno Bil y DU fis Gorffennaf diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddiflino i geisio ei ddiwygio fel ei fod yn parchu'r setliad datganoli mewn modd priodol. Mae Llywodraeth y DU wedi cael pob cyfle posib i gytuno ar y mater hwn ac i naill ai dderbyn y diwygiadau a gyhoeddwyd gennym ni ar y cyd â Llywodraeth yr Alban neu gyflwyno gwelliannau addas ei hun. Yn wir, addawodd wneud hynny ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae hi bellach yn fis Mawrth ac rydym ni'n dal i aros.
Felly, Llywydd, fel yr adroddais i'r Cynulliad yr wythnos diwethaf, er y bu cynnydd ar y mater hwn yn ystod yr wythnosau diwethaf, nid ydym eto wedi cyrraedd sefyllfa lle y gallwn ni fod yn ffyddiog y caiff y Bil ymadael ei ddiwygio er mwyn bodloni'r holl bryderon. Felly nid oes unrhyw ddewis inni ond cyflwyno ein Bil parhad ein hunain, sef y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), y Bil LDEU, sy'n sicrhau bod modd gweithredu'r gyfraith yng Nghymru yn llwyr ar ôl y diwrnod ymadael ac sydd hefyd yn sicrhau y caiff penderfyniadau ynglŷn â chyfreithiau datganoledig eu gwneud yng Nghymru a chan y Cynulliad hwn. A dyna pam mae angen cyflwyno Bil a gwneud hynny ar fyrder.
Ar ôl rhoi cymaint o amser â phosib i Lywodraeth y DU wneud y newidiadau angenrheidiol i'w Bil, rydym wedi aros tan y funud olaf i gyflwyno'r Bil LDEU, ond mae'r funud olaf posib wedi cyrraedd. Bydd gweithredu'r Bil yn gofyn am swm sylweddol, yn wir swm gwbl ddigynsail, o gamau deddfwriaethol ar ran Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r amser cyfyngedig sydd ar ôl rhwng nawr a'r diwrnod ymadael yn golygu y byddai defnyddio'r gweithdrefnau arferol gyda Biliau yn mynd yn groes i'w nod ei hun, gan adael amser rhy fyr ar gyfer gweithredu ar ôl pasio'r Bil.
Mae angen inni hefyd roi amser i'r Senedd ymateb i lais y Cynulliad ar y mater hwn. Pe bai'r Cynulliad yn penderfynu pasio'r Bil hwn, bydd yn dangos cryfder y teimlad yng Nghymru bod y penderfyniadau hynny ynghylch paratoi deddfwriaeth ddatganoledig ar gyfer Brexit yn fater i'r Cynulliad Cenedlaethol.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy'n gwrando gyda diddordeb mawr ac, yn amlwg, rwy'n cefnogi egwyddor gyffredinol yr hyn y mae'n ei argymell heddiw. Ond nid yw Biliau brys bob amser yn gyfreithiau da oherwydd cânt eu llunio i ddiwallu amcan penodol ac nid ydyn nhw o reidrwydd yn berthnasol wrth i sefyllfaoedd newid. A ddylai Bil brys fel hyn gynnwys cymal machlud?
Wel, Llywydd, rwy'n gobeithio bod gan y Bil gymal machlud wedi ei ymgorffori'n rhan ohono yn yr ystyr fy mod yn dal yn gobeithio y byddwn yn dod i gytundeb â Llywodraeth y DU a chyda Llywodraeth yr Alban ynglŷn â gwelliannau y gallem ni eu cyd-gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi. Byddai'r rheini'n gwneud y Bil parhad yn ddiangen oherwydd byddem wedi cyflawni ein hamcanion mewn ffordd arall, ac rydym ni wedi credu erioed fod y ffordd honno'n ffordd well. Fodd bynnag, rwyf bob amser yn awyddus i wrando ar sylwadau y mae'r Aelodau yn eu gwneud ynglŷn â'r Bil hwn a ffyrdd y gellid rhoi ystyriaeth bellach iddo pe byddai'r Cynulliad yn penderfynu heddiw rhoi caniatâd i'w gyflwyno ar sail brys ac yn unol â'r amserlen a fyddai'n ofynnol yn hynny o beth. Mae'r amserlen yr ydym ni'n ei hargymell yn caniatáu cyfle i drafodaethau barhau rhwng y deddfwrfeydd ac i'r Senedd ystyried cryfder y teimlad yng Nghymru ac, felly, i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol o ran Bil ymadael yr EU.
Nawr, Llywydd, wrth gwrs rwy'n cydnabod nad yw cyflwyno'r Bil LDEU ar ffurf Bil brys yn ddelfrydol, a dyna pam rwy'n dweud, unwaith eto, mai'r sefyllfa ddelfrydol i ni o hyd yw cael Bil Llywodraeth y DU sy'n parchu datganoli. Byddwn yn parhau i weithio gyda hynny mewn golwg nes disbyddu pob posibilrwydd o'i wella'n llwyddiannus. Ond mae methiant Llywodraeth y DU i weithredu i fynd i'r afael â'n pryderon yn golygu bod angen y Bil LDEU ar frys erbyn hyn. Os na ellir ei drin fel Bil brys, ni ellir ei gyflwyno o gwbl. Gallai'r gost o beidio â gwneud hynny fod yn uchel iawn: tanseilio'r setliad datganoli presennol yn sylfaenol.
Ynghylch y cynnig o ran yr amserlen, rwy'n gofyn i'r Aelodau ei gefnogi oherwydd mae'n angenrheidiol craffu ar y Bil a'i gyflwyno i'r Cynulliad cyn gynted â phosib. Pan fydd amserlen gennym ni, yna byddaf yn gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae'r Aelodau'n ei ddweud amdano, gan gynnwys yr hyn a ddywedir y prynhawn yma, ond, heb amserlen, mae'r Bil hwn yn sownd heb fan cychwyn; ni fydd y trên byth yn gadael yr orsaf, ac aiff ei holl ddiben i'r gwellt cyn iddo ddechrau. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau gytuno ar y defnydd o'r weithdrefn Bil brys a'r amserlen arfaethedig ar gyfer rhoi'r broses ffurfiol ar waith.
Yn fwy cyffredinol, Llywydd, mae'r penderfyniad i gyhoeddi'r Bil ar ffurf ddrafft yr wythnos diwethaf yn golygu ein bod eisoes wedi dechrau trafod ei gynnwys. Roeddwn yn ddiolchgar o gael y cyfle i ateb cwestiynau gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddoe. Os cytunir ar gynigion heddiw, caiff y Bil ei gyflwyno'n ffurfiol yfory. Ddydd Llun wythnos nesaf, byddaf yn mynd i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, lle creffir ar y Bil. Ddydd Mawrth, bydd y Cynulliad cyfan yn gallu trafod rheolaethau sylweddol y Bil yn erbyn y cynnig Cyfnod 1. Ond, Llywydd, ni all dim o hynny ddigwydd oni bai y gellir cytuno heddiw ar ddefnyddio gweithdrefn Bil brys a'r amserlen sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddau gynnig fel y gellir dechrau ar y gwaith hanfodol hwn, gwaith o bwysigrwydd mawr a chryn frys.
Dechreuaf drwy sôn am yr agweddau hynny yr ydym ni'n cytuno â Llywodraeth Cymru yn eu cylch ar yr ochr hon i'r Cynulliad, ac mae hynny yn unol â'r hyn a amlinellwyd mewn datganiad, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae Llywodraeth Cymru yn parhau o'r farn mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r mater hwn yw diwygio'r Bil i Ymadael â'r UE er mwyn iddo fedru cael cydsyniad deddfwriaethol gan y Cynulliad Cenedlaethol.'
Ac rwyf yn cytuno y dylid mynd i'r afael â hyn ar lefel y DU gyda chaniatâd llawn a phriodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac, yn wir, Senedd yr Alban. Cytunaf hefyd â Llywodraeth Cymru pan ddywedant, ac rwy'n dyfynnu,
'Byddai costau ansicrwydd cyfreithiol a diffyg cysondeb yn debyg o fod yn sylweddol iawn.'
Credaf, yn hyn oll, fod yn rhaid inni, orau y gallwn ni mewn maes cymhleth, geisio ffurfio'r safbwynt cliriaf posib. A gaf i hefyd gydnabod, Llywydd, eich penderfyniad ynglŷn â chymhwysedd ac nad oedd hwnnw'n fater syml, oherwydd roedd cydnabyddiaeth bod dadleuon sylweddol o blaid ac yn erbyn cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn? Barn ddoeth a chytbwys nodweddiadol, os caf i ddweud hynny.
Rydym yn coleddu barn wahanol i Lywodraeth Cymru ar hyn oherwydd credwn fod y gwiriadau priodol hyn—ac mae hynny yn brawf gwych o'r setliad datganoli, rwy'n cytuno â hynny—yn y weithdrefn cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Nid ydym yn credu y gall Bil ymadael yr UE fynd rhagddo'n llwyddiannus heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban. Mae hi'n ddyfais briodol, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac mae'n un sy'n rhoi inni yr amddiffyniad cyfansoddiadol y mae'r Gweinidog yn ei geisio, yn fy marn i. Ildiaf.
Diolch i'r Aelod am ildio. A ydych chi'n cytuno â mi, felly, yn gynharach eleni, y cafwyd cefnogaeth unfrydol ar gyfer Bil parhad ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad? A allwch chi roi syniad imi o'r hyn sydd wedi newid o ychydig dros fis yn ôl i nawr, pan mae Bil parhad yn dal i fod?
Nid oedd cefnogaeth unfrydol. Cafwyd cynnig i nodi nad oeddem eisiau rhannu'r Cynulliad arno, oherwydd, yn nhactegau hyn, rydym wedi bod yn awyddus bod ymdrechion Llywodraeth Cymru i negodi fframwaith effeithiol a fframweithiau llywodraethu effeithiol yn cael cymaint o gymorth â phosib gan y Cynulliad. Felly, gwnaethom benderfyniad ymarferol iawn, ond nid penderfyniad oedd hwnnw i gymeradwyo Bil parhad, ac mae gennym bellach Fil parhad ger ein bron. Ac rwyf yn mynd i wneud rhai sylwadau ynglŷn â'r agweddau hynny yr wyf i o'r farn ei bod yn bwysig inni siarad yn unfrydol yn eu cylch yma.
Felly, mae'n rhaid imi ddod i'r casgliad nad yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r Bil hwn ond yn ychwanegu llawer iawn at ansicrwydd cyfreithiol, ac ni fydd hynny er budd pobl Cymru, na sefydliadau a busnesau yng Nghymru. Fel y dywedais, y cyfrwng priodol—ac y mae yn un enfawr—yw proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
A gaf i wneud rhai sylwadau ymarferol, Llywydd, ynglŷn â chraffu? Fel y dywedasoch chi, nid yw'r rhain yn faterion syml, sydd yn ffordd arall o ddweud y byddai angen craffu helaeth i sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd briodol ac yn deddfu yn drylwyr. Mae dadleuon yn bodoli ar y ddwy ochr. Y sefyllfa yn yr Alban yw eu bod wedi mynd ati mewn ffordd wahanol, a gallai hyn arwain at gyfeirio'r mater at y Goruchaf Lys, a bydd hynny ynddo'i hun yn ychwanegu at ba bynnag ansicrwydd a all ein hwynebu.
Felly, mae'n rhaid imi ddweud, am y rhesymau hyn, rydym yn awgrymu pwyllo, o ystyried yr amwysedd sy'n bodoli ar hyn o bryd ynghylch yr holl fater hwn. Ond mae'r gwrthwynebiad mwyaf yn ymwneud â sut y byddem ni'n craffu ar Fil brys ynglŷn â mater cyfansoddiadol mor sylweddol. O ystyried yr amserlen, byddai hynny mor gyflym fel na ellid ond craffu yn arwynebol, os oedd hynny'n bosib o gwbl, ar nifer penodol o feysydd cyfyngedig. Ddydd Mawrth nesaf byddai gennym Gyfnod 1, y dydd Mawrth canlynol, 20 Mawrth, Gyfnod 2, a'r diwrnod ar ôl hynny, 21 Mawrth, Gyfnodau 3 a 4.
Mae'n rhaid inni benderfynu heddiw a ddylid rhoi gweithdrefn frys ar waith heb femorandwm esboniadol. Mae'r Gweinidog yn iawn: rydym wedi cael y Bil ar ffurf ddrafft, ond, wyddoch chi, mae memorandwm esboniadol yn bodoli, ac mae wedi ei atal. Nid wyf yn credu bod hynny'n ychwanegu llawer iawn at y trafodion hyn, a, Llywydd, hwyrach ei fod yn rhywbeth yr hoffem ni ei ystyried o ran diwygio'r Rheolau Sefydlog, sef, yn amgylchiadau eithriadol gweithdrefn frys, mae'n rhaid cyflwyno'r memorandwm esboniadol bryd hynny. Gwn ar hyn o bryd ei bod hi'n anodd ac y gwneir hynny yn ystod y cyflwyno, ond ni fu hon yn broses lle cawsom bob cyfle posib, ar hyn o bryd o leiaf, i lunio barn gadarn.
A gaf i orffen—
A wnewch chi dderbyn ymyriad arall? Rwy'n gweld bod yr amser yn brin iawn.
Gwnaf os gwnaiff y Llywydd—
Diolch yn fawr iawn. Onid yw hi'n wir, fodd bynnag, na fyddai'r ddeddfwriaeth hon ar ffurf frys efallai yn angenrheidiol o bosib pe bai Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n galwadau o Gymru i ystyried anghenion Cymru yn y dyfodol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?
Edrychwch, nid oes ffordd o gwmpas hyn. Yr hyn a gynigiwyd heddiw yw, ymhen amser—rhyw 20 diwrnod, neu lai mewn gwirionedd—y byddem yn pasio rhyw fath o Fil parhad. Mae'n mynd i gymryd naw neu 10 mis drwy weithdrefn San Steffan, ac rydym i fod ei wneud mewn 14, 15, 16 diwrnod neu beth bynnag. Rwy'n credu y dylech chi, Rhun, os caf i fod mor hyf a dweud, edrych ar y darlun mawr yn y fan yma. Ni ddylem fod yn gwneud cyfraith gyfansoddiadol ar frys gwyllt fel hyn.
Hoffwn i ddod i ben yn gyflym iawn gyda'r hyn y mae angen inni ei gyflawni, a hynny yw fframweithiau ar gyfer y DU sy'n cael eu derbyn ym mhobman—gan Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru—a bod angen cyd-lywodraethu effeithiol ynglŷn â fframweithiau a gaiff eu derbyn yn yr Alban a Chymru. Dyna'r frwydr wirioneddol yr ydym yn ei chael gyda'n cyd-Aelodau yn Lloegr nad ydyn nhw, efallai, yn gyfarwydd â rhai o'r cysyniadau hyn fel yr ydym ni, ac yn hynny o beth rydym wedi rhoi pob cymorth ymarferol i Lywodraeth Cymru.
Yn olaf, er mwyn cyflawni'r sicrwydd cyfreithiol a'r trylwyredd llawn sydd eu hangen arnom, mae'n rhaid inni fwrw ymlaen ar lefel Brydeinig a gweithio ar Fil ymadael ar gyfer y DU a fydd yn cael cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol. Yn anffodus, ni fyddwn yn cefnogi'r naill gynnig na'r llall ar y mater hwn y prynhawn yma, Llywydd.
Heddiw, rydym yn pleidleisio ar gyflwyno y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel Bil brys y Llywodraeth. Mae hyn yn gwireddu'r alwad gan Blaid Cymru i gyflwyno Bil parhad ac mae'n adeg dyngedfennol i'n cenedl ac o ran ein hymateb i'r broses o ymadael â'r UE. Mae'r Bil hwn yn rhoi'r dylanwad mwyaf sylweddol sydd gennym ni fel gwlad yn y ddadl hon ar hyn o bryd.
Hoffwn fynd â chi yn ôl i 8 Tachwedd 2016. Dyna pryd yr esgorwyd ar y syniad o Fil parhad—pan gafodd ei gynnig gyntaf gan Blaid Cymru fel ffordd o atal San Steffan rhag cipio grym. Roedd hyn cyn i Lywodraeth y DU gyflwyno Bil ymadael yr UE ac yn dangos bod rhai ohonom ni ar y meinciau hyn yn rhagweld y byddai bygythiad i'r pwerau hynny a oedd yn dychwelyd o Frwsel. Ac yn awr, fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, rydym o'r diwedd mewn sefyllfa lle mae'r Bil parhad hwn yn mynd rhagddo. Nid yw hyn ond yn digwydd oherwydd eiriolaeth ddi-baid o blaid y Bil, ac oherwydd methiant Llywodraeth y DU i gynnig ateb i'r broblem wirioneddol o gipio grym gan San Steffan. Maen nhw wedi methu â bodloni Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban. Mae'n bwysig nodi yng Nghymru a'r Alban ill dwy fod y gefnogaeth i'r Bil parhad nid yn unig o du'r Llywodraeth; yn y ddau achos, mae mwyafrif y Senedd yn gefnogol. Nid oes a wnelo hyn yn unig â grym y Llywodraeth a grym Gweinidogion; mae a wnelo hyn â'r Cynulliad cyfan. Mae'n ymwneud â democratiaeth Cymru a phleidleisiau olynol o blaid pwerau deddfu a datganoli.
Bydd Plaid Cymru, wrth gwrs, yn pleidleisio o blaid y ddau gynnig heno. Ond, Llywydd, rwyf o'r farn ei bod yn anffodus na fydd y bleidlais heno yn unfrydol. Bydd gennym fwyafrif clir a llethol o Aelodau'r Cynulliad o blaid y Bil hwn o hyd, sydd yn gadarnhaol, ond fel y cyfaddefodd David Melding eisoes, mae'r neges yn gryfach o lawer pan fydd yr holl bleidiau'n gytûn. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn dibynnu ar gefnogi neu wrthwynebu'r egwyddor o adael yr UE. Nid yw hyn yn ymwneud â hynny. Byddwn yn croesawu pleidleisio ochr yn ochr â phleidiau eraill yr wrthblaid ar hyn ar ôl i gynnig deddfwriaethol yr Aelod gael cefnogaeth unfrydol yn gynharach eleni. Ond er gwaethaf hyn, mae'n rhaid inni symud ymlaen yn awr gyda mwyafrif effeithiol o ddwy ran o dair i gefnogi'r Bil hwn, sy'n cynrychioli pleidlais gref o hyder o blaid amddiffyn democratiaeth Cymru.
Llywydd, rwy'n cytuno â'r ddadl y gellid bod wedi osgoi'r weithdrefn frys, ond bellach mae hynny'n rhy hwyr. Byddai Plaid Cymru wedi cefnogi cyflwyniad y Bil hwn yn gynharach o lawer; roeddem eisiau gweld hynny'n digwydd. Ond mae cyflwyno'r Bil o dan weithdrefn frys yn well, yn ein barn ni, na chael dim Bil o gwbl. Ar hyn o bryd yn y broses o ymadael â'r UE, nid oes unrhyw ddadl argyhoeddiadol o blaid llaesu dwylo a chaniatáu i San Steffan gipio'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli. Rydym wedi dysgu'r ffordd anodd, dro ar ôl tro, i beidio ag ymddiried yn San Steffan. Faint o addewidion? Ac mae San Steffan eisoes wedi anwybyddu cynnig cydsyniad deddfwriaethol o'r lle hwn ar gomisiynwyr yr heddlu. Mae'n rhaid i unrhyw bwerau datganoledig a gaiff eu rhannu ar lefel y DU neu Brydain Fawr fod wedi eu cyd-benderfynu gan Lywodraethau'r DU. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gadw'n driw i'r farn honno ac i wrthsefyll unrhyw ymgais i geisio gwyrdroi penderfyniadau'r Cynulliad hwn yn y llysoedd.
Llywydd, i gloi, mae Plaid Cymru yn parhau i alw am Fil parhad a byddwn yn pleidleisio o blaid cynigion heddiw. Byddwn bob amser, bob amser yn amddiffyn ein sefydliadau democrataidd yr ymdrechwyd mor ddyfal i'w cael a'n democratiaeth genedlaethol—bob amser.
Mae fy marn i am y Bil hwn yn seiliedig ar gyd-destun—ac rwy'n credu mai'r brif flaenoriaeth, yn gyfansoddiadol, yw ein bod yn parchu ewyllys y bobl, a bod refferenda, hyd yn oed os nad ydyn nhw, o ran eu ffurf, yn gofyn am ymlyniad cyfreithiol, maen nhw'n sicr yn gofyn am ymlyniad moesol pan fo'r Senedd, boed hynny yn San Steffan neu yma, wedi rhoi ar y llyfr statud y ddeddfwriaeth sy'n rhoi grym cyfreithiol iddynt—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Ydych chi'n derbyn y dylid parchu ewyllys y bobl hefyd fel y mynegwyd hynny yn refferendwm 2011 ar bwerau?
Wel, mae arweinydd Plaid Cymru wedi rhagweld fy mrawddeg nesaf, oherwydd dyna'n union yr hyn yr oeddwn i'n mynd i'w ddweud. Mae ein meddyliau yn gweithio yn yr un ffordd; rydym ni o gyffelyb fryd.
Roeddwn i ar fin dweud bod hynny yr un mor berthnasol i refferendwm yr UE ag i'r ddau refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru. Ac er imi goleddu barn wahanol ynglŷn â datganoli ar y pryd, rwy'n derbyn ewyllys y bobl a byddaf yn gwneud fy ngorau, fel y gobeithiaf fy mod i wedi gwneud yn yr amser y bûm i yn y lle hwn, i wneud iddo weithio. Rwy'n gweld manteision a all ddod i Gymru yn ei sgil. Yn aml iawn, mae hyn yn wir mewn bywyd; bod manteision yn ogystal ag anfanteision, er nad ydym o bosib eisiau gweld rhywbeth yn digwydd.
Rwy'n cael trafferth deall pam yn wir bod Llywodraeth y DU wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa hon heddiw. Mae gennym ni Gabinet lle mae pobl sydd eisiau aros yn yr UE yn tra-arglwyddiaethu, ac mae rhan ohonof felly yn meddwl tybed a yw hyn i gyd yn rhan o gynllun cyffredinol i danseilio'r holl broses—i geisio creu cymaint o ddrwgdeimlad ag y bo modd, sy'n tanseilio'r amcan yr wyf eisiau ei weld yn cael ei gyflawni. Ond rwy'n credu bod y ddamcaniaeth smonach yn hytrach na'r ddamcaniaeth cynllwyn yn berthnasol yn gyffredinol i Lywodraeth, ac felly mae'n well gennyf ei briodoli i'w hanallu naturiol.
Ond, rwy'n credu bod y diffyg dealltwriaeth yn San Steffan yn warthus—rwy'n credu mai dyma'r hyn a amlygwyd gan araith David Melding—bod y diffyg dealltwriaeth y mae'n credu sy'n bodoli yn San Steffan, ac rwy'n cytuno ag ef, yn gyfrifol am ddibrisio canlyniadau'r refferendwm a arweiniodd at sefydlu'r lle hwn. Mae'n rhaid inni dderbyn y realiti bod gan Gymru ei Senedd ei hun bellach, bod ganddi ei Llywodraeth ei hun, yr un fath ag yn yr Alban. Ac o ganlyniad, pan fyddwn yn gyfreithiol y tu allan i'r UE, bydd angen i'r fframweithiau hynny fydd yn ddymunol, os nad yn gwbl angenrheidiol, mewn sawl ffordd, o ran pwerau sydd wedi eu datganoli i wneud bywyd yn fwy cyfleus i bob un ohonom ni, roi ystyriaeth briodol i safbwyntiau pobl Cymru, fel y'u cynrychiolir yn y lle hwn a'r Llywodraeth sy'n cael ei hethol o'n plith. Mae hynny'n ymddangos i mi yn ddatganiad hollol gyffredin o'r materion cyfansoddiadol.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd yn y datganiad a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror gan Lywodraeth Cymru, mai
'prif amcan y Bil yw sicrhau, yn gyffredinol, bod y rheolau a'r cyfreithiau sy'n berthnasol mewn meysydd datganoledig cyn ymadael yn parhau i fod yn berthnasol yn syth ar ôl ymadael, gan felly ddarparu sicrwydd i ddinasyddion, busnesau a sefydliadau eraill.'
Mae hynny'n amlwg er budd pawb. Felly, mewn gwirionedd ni allaf weld pam ddylai hyn rwystro'r broses Brexit. Roedd gennyf amheuaeth ar y dechrau mai ystryw oedd hyn i geisio gwneud y broses o adael yn fwy anodd nag y dylai fod, ac efallai hyd yn oed i'w rwystro'n gyfan gwbl. Rwyf, ers peth amser, wedi cefnu ar yr ofn hwnnw, ac rwy'n derbyn didwylledd y Llywodraeth fod hyn yn ymgais ddiffuant i orfodi Llywodraeth y DU i wneud y peth iawn y mae pob plaid yn y tŷ hwn, hyd yn oed y Blaid Geidwadol yma, yn derbyn y dylid ei wneud—y dylid diwygio Bil ymadael yr UE i sicrhau'r canlyniad y mae pob un ohonom ni eisiau ei weld.
Felly, does a wnelo hyn ddim â mater mawr o egwyddor, y ddadl hon. Mae pob un ohonom yn cytuno ar yr egwyddor gyffredinol ac ar y canlyniad yr ydym eisiau ei weld o'r broses Brexit. Felly, os mai canlyniad hyn yw gorfodi Llywodraeth y DU i gyflymu'r broses o gyflawni hynny, rwy'n credu y byddai yn beth da iawn. Mae gan Lywodraeth y DU, ar ddiwedd y dydd, y grym i'n gwastrodi'n llwyr. Rydym yn gwybod hynny. Felly, mae hyn yn ceisio ei gwneud hi'n fwy chwithig iddyn nhw nag y byddai fel arall pe baen nhw yn y sefyllfa honno. Dyna gymaint ag y gallwn ni ei wneud, ac ar y sail honno rwy'n fwy na pharod i roi fy nghefnogaeth i Lywodraeth Cymru yn y glymblaid enfys eithaf annhebygol hon a dod yn dipyn o symbol, yn ôl a ddeallaf o ddarllen y wasg yn yr Alban, ymhlith cenedlaetholwyr yr Alban, a chyda Nicola Sturgeon, o ganlyniad i'r hyn a ddywedais yn y fan yma ychydig wythnosau yn ôl. Nid yw hon yn sefyllfa y credwn a fyddai byth yn bosib, heb sôn am fod yn un ddymunol. Ond dyna ni; mae'n rhaid inni dderbyn clodydd mewn bywyd, pan ddelont i'n rhan, hyd yn oed o'r ffynonellau mwyaf annhebygol.
Felly, ar y sail honno, byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth i dywys y Bil drwy'r Cynulliad hwn, a gobeithiaf y bydd synnwyr cyffredin i'w weld yn San Steffan yn fuan iawn.
Llywydd, a gaf i yn gyntaf oll gymeradwyo'r rhai a ddrafftiodd y Bil a'r cryn fedr a'r gwaith a fu'n rhan o'i lunio? Bu hon yn broses ddysgu anhygoel iddyn nhw, ond mae'n dangos yr adnoddau a'r sgiliau sy'n bodoli yn y ddeddfwrfa hon.
A gaf i ddweud hefyd fy mod yn cytuno â llawer iawn o'r hyn y mae David Melding wedi ei ddweud? Mae wedi crybwyll yr holl bwyntiau cyfansoddiadol cywir o ran ein swyddogaeth, o ran craffu ar bwerau, a'r ffordd y mae Llywodraeth yn gweithredu. Nid wyf yn beirniadu o gwbl y pwyntiau a nododd, ar wahân i'r maes yr wyf yn anghytuno ag ef, sef nad wyf yn credu ein bod ni mewn sefyllfa lle gallwn fforddio llaesu dwylo a gwneud dim. Rwy'n credu bod hynny yn ein tywys yn ôl mewn gwirionedd i fan cychwyn y benbleth, lle mae gwraidd yr anghydfod, lle mae gwraidd y broblem. Ac mae'n deillio mewn gwirionedd, o'r ddealltwriaeth gychwynnol o wir natur gyfansoddiadol datganoli yng nghyd-destun cyfansoddiad y DU.
Nid oes unrhyw amheuaeth, yn fy marn i, oherwydd rwy'n credu y caiff hynny ei anrhydeddu gan bron pob un o'r pwyllgorau cyfansoddiadol a deddfwriaethol, gan Dŷ'r Arglwyddi, Tŷ'r Cyffredin, yn yr Alban ac yng Nghymru, sydd ar y cyfan, rwy'n credu, i gyd yn derbyn bod dadansoddiad cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru yn gywir, a bod y pwerau hynny, yn absenoldeb y Bil ymadael—mae'r holl bwerau sydd ar hyn o bryd ym Mrwsel sy'n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb datganoledig yn dychwelyd i'r mannau lle mae'r Senedd eisoes wedi penderfynu eu bod yn perthyn iddynt, a phenderfynir ar hynny gan statudau amrywiol datganoli.
Mae'r Bil ymadael, os na chaiff ei ddiwygio, mewn gwirionedd, yn Fil canoli pwerau. Mae'n tanseilio cytundebau datganoli yn llwyr. Dyma sylw a wnaed dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU. Mae'n rhaid inni fynd yn ôl at ddechrau'r broses hon, ar ôl y refferendwm: hynny yw, addawyd inni y byddai trafod ac ymgynghori priodol. Ni ddigwyddodd hynny. Addawyd inni y cyflwynid gwelliannau. Addawyd gwelliannau allweddol i'r Alban o ran cymal 11. Ni anrhydeddwyd hynny. Addawyd inni y rhoddid pob math o drefniadau ar waith—y byddai hyn yn cael ei ddatrys. [Torri ar draws.] Gwnaf, mi wna i.
Diolch yn fawr iawn ichi am dderbyn ymyriad. Os oedd Llywodraeth Cymru yn pryderu cymaint am y diffyg gweithredu ar ran Llywodraeth y DU, pam na wnaethon nhw gyflwyno hyn ynghynt?
Wel, rwy'n credu mai'r rheswm yw oherwydd roeddem yn credu—ac rwy'n credu yr oedd hi'n iawn inni gredu—y byddai Llywodraeth y DU yn gwrando ar y cyngor cyfreithiol yr oedd hi'n ei chael ac y byddai hi'n gwneud y peth iawn. Nawr, rwy'n credu mae'n debyg bod rhai yn Llywodraeth y DU sydd eisiau gwneud y peth iawn, ond buont yn analluog i wneud y mathau o newidiadau sydd eu hangen mewn gwirionedd i ddatrys hyn, ac mae cynigion wedi'u gwneud.
Nawr, rwy'n gobeithio bod trefniant, ond gwelaf dri phosibilrwydd. Yr un cyntaf—a gobeithio nad oes neb yn mynd i ymyrryd, fel bod yn rhaid imi fynd yn ôl a dweud, 'Na, roedd pedwar posibilrwydd'—ond rwy'n gweld tri phosibilrwydd allweddol. Y gyntaf yw nad oes unrhyw gytundeb ar gymal 11. Felly, nid ydym yn gallu rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Felly, mae'n rhaid inni ymdrechu i ddiogelu buddiannau Cymru a'r setliadau datganoli. Yr ail bosibilrwydd yw bod cytundeb, y gallwn ni gytuno, ac, heb amheuaeth, bydd y Bil arfaethedig hwn yn cyfrannu'n sylweddol at gyflawni hynny, os caiff ei gyflawni. Ac os sicrheir y cytundeb hwnnw ar gymal 11, yna ni fydd angen parhau â'r Bil parhad, oherwydd bydd y trefniadau a'r grymoedd datganoli cywir wedi'u sefydlu.
Y dewis arall—a chredaf ei bod yn annhebygol, ond mae'n ddewis amgen trychinebus, ond nid oes dim y tu hwnt i anallu'r Llywodraeth bresennol sydd gennym ni yn San Steffan—yw y bydd y Bil ymadael yn methu am ryw reswm, ac y byddai hynny'n golygu na fydd gennym unrhyw drefniadau o gwbl yr eiliad yr ydym yn gadael yr UE o ran yr holl feysydd hynny yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw ar hyn o bryd. Yn fy marn i, byddai'n gwbl anghyfrifol i beidio â chyflwyno'r ddeddfwriaeth hon mewn gwirionedd, ac mae rhesymau da pam na chafodd ei chyflwyno, nid dim ond fy mod yn credu y buom yn y sefyllfa gryfaf—rydym wedi gweithio er mwyn ceisio dod i gytundeb ac rydym yn dal i wneud hynny—ond mae hefyd yn wir bod hyn yn galluogi'r Bil hwn bellach i gael dylanwad a dangos pa mor benderfynol yr ydym ni, a'r Alban, bod yn rhaid anrhydeddu'r trefniadau datganoli, y trefniadau cyfansoddiadol sydd gennym ni. Rhoddwyd addewid inni y byddent yn cael eu hanrhydeddu, ond, yn anffodus, mae'r Bil ymadael ar ei ffurf bresennol yn ffurf o ysbeilio cyfansoddiadol, lle mai'r unig addewid a roddir yw dweud, 'Rydym ni wedi dwyn eich pwerau a'ch cyfrifoldebau, ond peidiwch â phoeni, wrth inni redeg ymaith, byddwn yn eu rhoi nhw yn ôl ichi yn nes ymlaen.' Nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw'n dangos parch i'r Senedd a sefydlodd y setliadau datganoli, ac nid yw'n dangos parch i'r Llywodraethau datganoledig.
Mae anawsterau gyda hynny, mae problemau gyda hynny, ond mae'n rhaid dechrau ar y Bil parhad. Credaf, os nad ydym yn gwneud hyn heddiw ac yn ei basio, na fydd yn digwydd. A bydd hynny yn gwanhau ein sefyllfa negodi yn sylweddol, ac rwy'n dal i gytuno'n llwyr â safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet ein bod yn dal i obeithio y byddwn yn sicrhau cytundeb. Ond gadewch i ni fod yn gwbl glir, os na allwn ni ddod i'r cytundeb hwnnw, os na allwn ni gyrraedd cyfnod lle dylid cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol, yna mae'n rhaid inni ddiogelu buddiannau Cymru, a dyna beth mae'r Bil hwn yn ei wneud.
Yn rhinwedd ei swyddogaeth yn cadeirio trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig ar Fil ymadael yr UE, dywedodd Gweinidog y Cabinet, yr Aelod Seneddol David Lidington, yn Airbus ym Mrychdyn, sir y Fflint yr wythnos diwethaf, fod yn rhaid inni warchod marchnad fewnol yn y DU gan barchu datganoli. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, dywedodd hefyd fod wyth o bob 10 lori nwyddau sy'n gadael Cymru yn mynd i weddill y DU, gan bwysleisio pwysigrwydd marchnad gyffredin y DU i Gymru, yn ogystal â gweddill y DU. Ychwanegodd Mr Lidington, ym Mrychdyn, fod rhaid inni sicrhau, fel yr ydym ni'n benderfynol o wneud, fod Brexit yn golygu mwy o bwerau i'r llywodraethau datganoledig ac nid llai... Felly ein cynnig ni yw diwygio'r Bil gerbron y Senedd i'w gwneud hi'n glir tra cytunir ar fframweithiau, y rhagdybiaeth bellach fyddai y dylai pwerau sy'n dychwelyd o'r UE fynd i'r llywodraethau datganoledig. Byddai gan San Steffan ran yn hyn dim ond pan fyddai, er mwyn amddiffyn y farchnad gyffredin yn y DU neu gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol, angen saib arnom—rwy'n pwysleisio saib—i roi amser i'r llywodraethau gynllunio a gweithredu fframwaith ar gyfer y DU gyfan.
Lywodraethau—yn y lluosog. Wrth ymateb i mi yn y—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i?
[Anghlywadwy.]—ynglŷn â'r sylw hwnnw?
Gwaf, mi wnaf i dderbyn un ymyriad.
Rwy'n ddiolchgar. Ynglŷn â'r union sylw hwnnw, mae wedi sôn am saib, am yr angen i edrych ar y creadur newydd hwn sy'n cael ei alw yn farchnad gyffredin y DU, ond, yn bwysicach fyth, pwy sy'n penderfynu a oes angen y saib hwnnw a phwy sy'n penderfynu a oes angen inni gadw'r pwerau yn San Steffan? Ai dim ond San Steffan, fel rwy'n tybio ei fod yn awgrymu, neu ai'r pedair gwlad yn cytuno ar hynny gyda'i gilydd? Os yw'n golygu y pedair gwlad, rwy'n cytuno ag ef, ond rwy'n credu ei fod yn awgrymu San Steffan.
Fel y dywedais, er mwyn rhoi i'r Llywodraethau—yn y lluosog—amser i benderfynu a rhoi fframwaith ar waith ar gyfer y DU gyfan.
Wrth ymateb i mi yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford fod araith Mr Lidington
'yn gam ymlaen o ran ein pryderon am gymal 11.'
Ychwanegodd Mr Drakeford wedyn,
'Yr hyn y mae angen inni ei wneud yn awr yw cael trafodaeth fanwl gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhai o'r ffyrdd ymarferol y byddai hynny'n gweithredu, a'r mater allweddol yn y fantol o hyd yw caniatâd'— rydym yn cytuno—y bydd yn mynd i gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogol ar drafodaethau'r UE gyda chynigion adeiladol am sut y gellid datrys y cwestiynau hynny, mai ei ddewis ffordd o gyflawni hyn yw cytuno ar welliant y gallai'r tair Llywodraeth ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi. Os na ellir cytuno ar welliant bydd yn parhau i fynd ar drywydd y gwelliannau ar y cyd a gyflwynwyd gyda Llywodraeth yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin ac a gaiff eu hail-gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi. A dim ond os nad ydynt yn llwyddo yn y fan honno y mae'n rhaid iddynt amddiffyn y sefyllfa pe ddaw'r dydd pan na fyddai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn barod i roi ei gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil ymadael.
Ar ôl cyflawni cymaint yn barod, mae'n amlwg felly bod awydd yn Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddod i gytundeb a fyddai'n caniatáu i Fil ymadael yr UE fynd rhagddo. Rwy'n siŵr y byddai un ymdrech olaf, ynghyd ag ymwneud adeiladol gyda'r Alban, yn galluogi i hyn yn awr ddigwydd. Wrth gwrs, rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yr wrthblaid swyddogol, yn llawn gydnabod yr egwyddorion cyfansoddiadol sydd yn y fantol. Rydym wedi galw'n gyson am gytundebau ar fframweithiau cyffredin rhwng Llywodraeth y DU yn sail ar gyfer cytundeb masnach rydd ar gyfer y DU, ac wedi dadlau nad oes unrhyw reswm pam na allai Bil ymadael yr UE nodi y byddai'r cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig yn dod i ben pan fo'r fframweithiau cyffredin y cytunwyd arnynt yn dod i rym. Rydym ni hefyd yn croesawu yr ateb a roddodd yr Ysgrifennydd Cyllid i mi yng nghyfarfod ddoe o Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, y cyfeiriodd ato pan ddywedodd y bu gwaith manwl iawn ar lefel swyddogol, sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ynglŷn â mater cydsynio. Ychwanegodd fod mwy nag un ffordd y gellid pontio'r safbwyntiau gwahanol hynny ac y bydd cyfarfod dydd Iau o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogol ar drafodaethau'r UE yn canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol o wneud hynny, lle mae pawb yn rhannu'r un uchelgais i gytuno ar welliant. Rydym hefyd yn deall y bydd hyn yn cael ei drafod mewn cyfarfod y bydd Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru yn mynd iddo yr wythnos nesaf. Wrth gydnabod hyn ac anaddasrwydd cyflwyno deddfwriaeth gyfansoddiadol sylweddol o dan weithdrefn frys, a fyddai'n gwneud y craffu angenrheidiol ac effeithiol yn amhosibl, mae'n rhaid inni wrthwynebu'r cynigion hyn. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gellir mynegi barn y Cynulliad hwn, gan gynnwys ein barn ni, drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol os na roddir sylw bryd hynny i'r pryderon sydd gennym ni. Rhaid gwarchod uniondeb cyfansoddiadol Senedd Cymru, ac ni wnaiff y Ceidwadwyr Cymreig, yr wrthblaid swyddogol, betruso ennyd cyn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ochr yn ochr â phleidiau eraill, os peryglir hynny. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hynod ystyriol hon? Caniatewch i mi ddechrau gyda'r cyfraniad diwethaf gan Mark Isherwood, a chadarnhau i Aelodau'r Cynulliad y byddaf yn wir yn mynd i gyfarfod gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ddydd Iau yr wythnos hon, ac y byddaf yn mynd i'r cyfarfod hwnnw yn yr ysbryd hwnnw y cyfeiriodd Mark Isherwood ato. Byddaf yn ceisio darganfod ffyrdd o lunio gwelliant rhyngom ni sy'n sicrhau parhad, fel bod modd trosglwyddo cyfraith yr UE i gyfraith ddomestig mewn ffordd drefnus, ond mewn modd sydd hefyd yn parchu datganoli yn y Deyrnas Unedig. Ac mi af i yno i wneud hynny mewn modd mor bendant a phwrpasol ag y gallaf.
Mae'r Bil hwn yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd os nad yw hynny'n llwyddo, ac rwyf eisiau troi at gyfraniad David Melding, oherwydd soniodd David Melding am ddau fater sy'n uniongyrchol berthnasol i'r ddadl. Roedd yn dadlau bod y system wirio briodol yn rhan o broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, mai'r hyn y dylem ei wneud yw dibynnu ar broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol—ac fe glywsoch chi Mark Isherwood yn dweud na fyddai ei blaid ef yn petruso am ennyd cyn pleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol os na fyddai Bil ymadael yr UE gan Lywodraeth y DU yn parchu datganoli. Ond y cwestiwn sydd gennyf i'w ofyn i'r Blaid Geidwadol yw: beth sy'n digwydd wedyn? Beth sy'n digwydd os yw'r ddeddfwrfa hon yn gwrthod rhoi cymhwysedd deddfwriaethol? Dywedodd Leanne Wood fod Llywodraeth y DU eisoes wedi anwybyddu, unwaith, gynnig cydsyniad deddfwriaethol a gafodd ei wrthod, ond nid ydyn nhw erioed wedi amharchu cynnig cydsyniad deddfwriaethol yr oedden nhw eu hunain wedi dweud ar y dechrau fod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Dywedasant nad oedd yn angenrheidiol o ran plismona, gan ddadlau nad oedd hynny wedi'i ddatganoli, ond mae Llywodraeth y DU ei hun wedi dweud bod angen cydsyniad y ddeddfwrfa hon. Felly, mae'n rhaid inni gymryd yn ganiataol, wrth dderbyn sylw David, os yw'r gwiriadau yn mynd i weithio mewn gwirionedd, petaem ni'n gwrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol, yna ni fyddai'r rhannau hynny o'r Bil sy'n effeithio ar Gymru bellach yn mynd rhagddynt, a ble byddai'r sicrwydd wedyn?
Rwy'n tybio eich bod wedi ildio. [Chwerthin.]
Do, yn sicr.
Mae'n ddrwg gennyf. Yn ein barn ni, nid yw'n gredadwy o gwbl y gellid gweithredu Bil ymadael yr UE y DU os nad yw'n cael cydsyniad pendant y lle hwn a Senedd yr Alban. Dyna realiti'r sefyllfa wleidyddol, a dyna'r hyn y dylem ni ddibynnu arno.
Nid yw'n ddigonol, Llywydd. Nid yw'n cyfateb i ddifrifoldeb y sefyllfa. Roedd Mick Antoniw yn hollol gywir. Os nad oes cytundeb, os na allai'r ddeddfwrfa hon roi ei chydsyniad deddfwriaethol, yna mae'n rhaid inni weithredu i roi cyfres o drefniadau ar waith a fyddai'n gweithredu ar gyfer busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn a ddylai, a pharchu penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Dyna pam mae'r Bil hwn yn angenrheidiol, a dyna pam, yn y pen draw, nad yw'n ddigon dibynnu ar broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, er mor bwysig yw honno, oherwydd pe na baem yn rhoi cydsyniad ac y byddai Llywodraeth y DU yn parchu hynny, ni fyddai unrhyw lyfr statud i Gymru er mwyn rhoi'r parhad a'r sicrwydd hynny y mae'r Bil hwn, y Bil parhad, yn ei roi.
Roedd yr ail bwynt a wnaeth David Melding ynglŷn â chraffu, ac rwy'n rhannu llawer o'i bryderon ynghylch yr amserlen yr ydym ni bellach yn gorfod cydymffurfio â hi, ond mae'r bai mewn gwirionedd ar Lywodraeth y DU. Petaent wedi gweithredu yn y ffordd y dywedasant wrthym y bydden nhw’n ei wneud ac wedi rhoi'r sicrwydd inni yr oedd ei angen yn gynharach yn y broses hon, yna naill ai ni fyddai angen y Bil parhad hwn arnom ni o gwbl, neu byddem wedi gallu cynnig mwy o amser i'r Cynulliad graffu arno. Yn hynny o beth, gofynnodd Leanne Wood pam na wnaethom ni ei gyflwyno yn gynharach. Bydd hi'n gwybod pa mor agos yr ydym wedi cydweithio â Llywodraeth yr Alban ar y mater hwn, sut rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i geisio rhoi cymaint o gyfle â phosib i Lywodraeth y DU gyflwyno gwelliant y gallem ni gytuno arno, sut yr ydym wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban yn unol ag amserlen gyffredin wrth gyflwyno ein Biliau parhad, a sut yr ydym ni nawr mewn sefyllfa o orfod gweithio'n gyflym. Caiff memorandwm esboniadol ei gyhoeddi yfory ochr yn ochr â'r Bil, os caiff ei gyflwyno.
Cyfeiriodd Leanne Wood yn gywir at y ffaith bod Plaid Cymru wedi dadlau'n hir o blaid Bil parhad, ac rwy'n credu y gwnaiff hi gydnabod bod rhan o'r effaith a gawsom ar lefel y DU wedi bod oherwydd y cydweithio â'r Alban, ond hefyd drwy allu dangos yr undod pwrpas yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn ynglŷn â'r materion pwysig iawn hyn. Dyna pam yr oeddem ni mor falch o gyhoeddi 'Diogelu Dyfodol Cymru' gyda Phlaid Cymru. Ac rwy'n siŵr y bydd hi'n cydnabod i Brif Weinidog Cymru ymateb yn gadarnhaol o'r dechrau i'r cysyniad o Fil parhad, ac iddo gymryd y cyfrifoldeb ei hun o oruchwylio datblygiad y Bil hwnnw, a'r swm aruthrol o waith, fel dywedodd Mick Antoniw, fu'n rhan o'r paratoi, gan gynnwys trafod gyda Phrif Weinidog yr Alban yn ystod y broses.
Rwyf wedi clywed yr hyn fu gan y pleidiau i'w ddweud yma y prynhawn yma, Llywydd. Gwn nad ydym yn unfrydol. Rwy'n gresynu at hynny. Nid wyf yn credu ei fod yn ein helpu ni i gael y dylanwad mwyaf posib y cyfeiriodd Leanne Wood ato. Ond credaf y bydd mwyafrif sylweddol yma yn y Cynulliad hwn fel y gallwn gyflwyno'r Bil hwn, y gallwn ni ei gyflwyno ar ffurf Bil brys, y gallwn ni wneud ein gorau o fewn yr amserlen sydd gennym ni. Ac os ydym ni yn y sefyllfa nad ydym eisiau bod ynddi, lle na ellir sicrhau cytundeb Llywodraeth y DU ar welliant priodol i'r Bil ei hun, yna bydd dyfodol Cymru a sicrwydd a pharhad cyfreithiol wedi'u sicrhau yma drwy'r Bil hwn os gallwn ni ei roi ar y llyfr statud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. Gan nad ydym wedi gwaredu'r bleidlais o dan eitem 9, gohiriaf y bleidlais o dan eitem 10 tan y cyfnod pleidleisio.
Ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r pleidleisio.