Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 6 Mawrth 2018.
Llywydd, wrth gwrs, nid wyf byth yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth gyda'r bwriad o gael bargen wael i Gymru, a byddaf yn parhau i weithio gyda chydweithwyr mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr y caiff Bil ymadael yr UE ei ddatblygu yn y fath fodd fel y gallem ni ei argymell i'r Cynulliad hwn, ac os na allwn ni gyflawni hynny yna ni wnawn argymhelliad o'r fath i chi.
Llywydd, nid diben y Bil gerbron y Cynulliad, os oes cytundeb arno heddiw, yw llesteirio Brexit, nid ei nod yw gohirio Brexit; yn hytrach mae'n ymgorffori ein cydnabyddiaeth bod angen deddfwriaeth er mwyn rhoi sefydlogrwydd cyfreithiol a dilyniant wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n hollbwysig bod y llyfr statud yn rhoi eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau yn ystod y cyfnod digynsail hwn o newid.
Barn Llywodraeth Cymru ers tro byd yw mai deddfwriaeth gan y DU fyddai'r ffordd orau o sicrhau dilyniant, sefydlogrwydd a sicrwydd. Felly, bu'n siom enfawr bod Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a luniwyd gan Lywodraeth y DU, a ddylai fod wedi bod yn gyfrwng i sicrhau'r parhad cyfreithiol hwnnw, wedi'i ddrafftio yn hytrach yn y fath fodd fel ei fod yn tanseilio'r setliad datganoli presennol ac mae ynddo'i hun yn ffynhonnell o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd.
Mae'r gwaharddiadau a'r cyfyngiadau y mae'n eu gosod ar bwerau'r Cynulliad hwn a Gweinidogion Cymru i ddeddfu ar faterion sydd wedi eu datganoli inni ers amser maith yn gwbl annerbyniol. Mae'r pwerau y mae'n eu rhoi i Lywodraeth y DU arfer rheolaeth o'r deddfau a'r cyfrifoldebau polisi sydd wedi'u datganoli yr un mor annerbyniol. Ers cyflwyno Bil y DU fis Gorffennaf diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddiflino i geisio ei ddiwygio fel ei fod yn parchu'r setliad datganoli mewn modd priodol. Mae Llywodraeth y DU wedi cael pob cyfle posib i gytuno ar y mater hwn ac i naill ai dderbyn y diwygiadau a gyhoeddwyd gennym ni ar y cyd â Llywodraeth yr Alban neu gyflwyno gwelliannau addas ei hun. Yn wir, addawodd wneud hynny ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae hi bellach yn fis Mawrth ac rydym ni'n dal i aros.
Felly, Llywydd, fel yr adroddais i'r Cynulliad yr wythnos diwethaf, er y bu cynnydd ar y mater hwn yn ystod yr wythnosau diwethaf, nid ydym eto wedi cyrraedd sefyllfa lle y gallwn ni fod yn ffyddiog y caiff y Bil ymadael ei ddiwygio er mwyn bodloni'r holl bryderon. Felly nid oes unrhyw ddewis inni ond cyflwyno ein Bil parhad ein hunain, sef y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), y Bil LDEU, sy'n sicrhau bod modd gweithredu'r gyfraith yng Nghymru yn llwyr ar ôl y diwrnod ymadael ac sydd hefyd yn sicrhau y caiff penderfyniadau ynglŷn â chyfreithiau datganoledig eu gwneud yng Nghymru a chan y Cynulliad hwn. A dyna pam mae angen cyflwyno Bil a gwneud hynny ar fyrder.
Ar ôl rhoi cymaint o amser â phosib i Lywodraeth y DU wneud y newidiadau angenrheidiol i'w Bil, rydym wedi aros tan y funud olaf i gyflwyno'r Bil LDEU, ond mae'r funud olaf posib wedi cyrraedd. Bydd gweithredu'r Bil yn gofyn am swm sylweddol, yn wir swm gwbl ddigynsail, o gamau deddfwriaethol ar ran Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r amser cyfyngedig sydd ar ôl rhwng nawr a'r diwrnod ymadael yn golygu y byddai defnyddio'r gweithdrefnau arferol gyda Biliau yn mynd yn groes i'w nod ei hun, gan adael amser rhy fyr ar gyfer gweithredu ar ôl pasio'r Bil.
Mae angen inni hefyd roi amser i'r Senedd ymateb i lais y Cynulliad ar y mater hwn. Pe bai'r Cynulliad yn penderfynu pasio'r Bil hwn, bydd yn dangos cryfder y teimlad yng Nghymru bod y penderfyniadau hynny ynghylch paratoi deddfwriaeth ddatganoledig ar gyfer Brexit yn fater i'r Cynulliad Cenedlaethol.