Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 6 Mawrth 2018.
Wel, mae arweinydd Plaid Cymru wedi rhagweld fy mrawddeg nesaf, oherwydd dyna'n union yr hyn yr oeddwn i'n mynd i'w ddweud. Mae ein meddyliau yn gweithio yn yr un ffordd; rydym ni o gyffelyb fryd.
Roeddwn i ar fin dweud bod hynny yr un mor berthnasol i refferendwm yr UE ag i'r ddau refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru. Ac er imi goleddu barn wahanol ynglŷn â datganoli ar y pryd, rwy'n derbyn ewyllys y bobl a byddaf yn gwneud fy ngorau, fel y gobeithiaf fy mod i wedi gwneud yn yr amser y bûm i yn y lle hwn, i wneud iddo weithio. Rwy'n gweld manteision a all ddod i Gymru yn ei sgil. Yn aml iawn, mae hyn yn wir mewn bywyd; bod manteision yn ogystal ag anfanteision, er nad ydym o bosib eisiau gweld rhywbeth yn digwydd.
Rwy'n cael trafferth deall pam yn wir bod Llywodraeth y DU wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa hon heddiw. Mae gennym ni Gabinet lle mae pobl sydd eisiau aros yn yr UE yn tra-arglwyddiaethu, ac mae rhan ohonof felly yn meddwl tybed a yw hyn i gyd yn rhan o gynllun cyffredinol i danseilio'r holl broses—i geisio creu cymaint o ddrwgdeimlad ag y bo modd, sy'n tanseilio'r amcan yr wyf eisiau ei weld yn cael ei gyflawni. Ond rwy'n credu bod y ddamcaniaeth smonach yn hytrach na'r ddamcaniaeth cynllwyn yn berthnasol yn gyffredinol i Lywodraeth, ac felly mae'n well gennyf ei briodoli i'w hanallu naturiol.
Ond, rwy'n credu bod y diffyg dealltwriaeth yn San Steffan yn warthus—rwy'n credu mai dyma'r hyn a amlygwyd gan araith David Melding—bod y diffyg dealltwriaeth y mae'n credu sy'n bodoli yn San Steffan, ac rwy'n cytuno ag ef, yn gyfrifol am ddibrisio canlyniadau'r refferendwm a arweiniodd at sefydlu'r lle hwn. Mae'n rhaid inni dderbyn y realiti bod gan Gymru ei Senedd ei hun bellach, bod ganddi ei Llywodraeth ei hun, yr un fath ag yn yr Alban. Ac o ganlyniad, pan fyddwn yn gyfreithiol y tu allan i'r UE, bydd angen i'r fframweithiau hynny fydd yn ddymunol, os nad yn gwbl angenrheidiol, mewn sawl ffordd, o ran pwerau sydd wedi eu datganoli i wneud bywyd yn fwy cyfleus i bob un ohonom ni, roi ystyriaeth briodol i safbwyntiau pobl Cymru, fel y'u cynrychiolir yn y lle hwn a'r Llywodraeth sy'n cael ei hethol o'n plith. Mae hynny'n ymddangos i mi yn ddatganiad hollol gyffredin o'r materion cyfansoddiadol.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd yn y datganiad a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror gan Lywodraeth Cymru, mai
'prif amcan y Bil yw sicrhau, yn gyffredinol, bod y rheolau a'r cyfreithiau sy'n berthnasol mewn meysydd datganoledig cyn ymadael yn parhau i fod yn berthnasol yn syth ar ôl ymadael, gan felly ddarparu sicrwydd i ddinasyddion, busnesau a sefydliadau eraill.'
Mae hynny'n amlwg er budd pawb. Felly, mewn gwirionedd ni allaf weld pam ddylai hyn rwystro'r broses Brexit. Roedd gennyf amheuaeth ar y dechrau mai ystryw oedd hyn i geisio gwneud y broses o adael yn fwy anodd nag y dylai fod, ac efallai hyd yn oed i'w rwystro'n gyfan gwbl. Rwyf, ers peth amser, wedi cefnu ar yr ofn hwnnw, ac rwy'n derbyn didwylledd y Llywodraeth fod hyn yn ymgais ddiffuant i orfodi Llywodraeth y DU i wneud y peth iawn y mae pob plaid yn y tŷ hwn, hyd yn oed y Blaid Geidwadol yma, yn derbyn y dylid ei wneud—y dylid diwygio Bil ymadael yr UE i sicrhau'r canlyniad y mae pob un ohonom ni eisiau ei weld.
Felly, does a wnelo hyn ddim â mater mawr o egwyddor, y ddadl hon. Mae pob un ohonom yn cytuno ar yr egwyddor gyffredinol ac ar y canlyniad yr ydym eisiau ei weld o'r broses Brexit. Felly, os mai canlyniad hyn yw gorfodi Llywodraeth y DU i gyflymu'r broses o gyflawni hynny, rwy'n credu y byddai yn beth da iawn. Mae gan Lywodraeth y DU, ar ddiwedd y dydd, y grym i'n gwastrodi'n llwyr. Rydym yn gwybod hynny. Felly, mae hyn yn ceisio ei gwneud hi'n fwy chwithig iddyn nhw nag y byddai fel arall pe baen nhw yn y sefyllfa honno. Dyna gymaint ag y gallwn ni ei wneud, ac ar y sail honno rwy'n fwy na pharod i roi fy nghefnogaeth i Lywodraeth Cymru yn y glymblaid enfys eithaf annhebygol hon a dod yn dipyn o symbol, yn ôl a ddeallaf o ddarllen y wasg yn yr Alban, ymhlith cenedlaetholwyr yr Alban, a chyda Nicola Sturgeon, o ganlyniad i'r hyn a ddywedais yn y fan yma ychydig wythnosau yn ôl. Nid yw hon yn sefyllfa y credwn a fyddai byth yn bosib, heb sôn am fod yn un ddymunol. Ond dyna ni; mae'n rhaid inni dderbyn clodydd mewn bywyd, pan ddelont i'n rhan, hyd yn oed o'r ffynonellau mwyaf annhebygol.
Felly, ar y sail honno, byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth i dywys y Bil drwy'r Cynulliad hwn, a gobeithiaf y bydd synnwyr cyffredin i'w weld yn San Steffan yn fuan iawn.