Part of the debate – Senedd Cymru am 6:28 pm ar 6 Mawrth 2018.
Wel, rwy'n credu mai'r rheswm yw oherwydd roeddem yn credu—ac rwy'n credu yr oedd hi'n iawn inni gredu—y byddai Llywodraeth y DU yn gwrando ar y cyngor cyfreithiol yr oedd hi'n ei chael ac y byddai hi'n gwneud y peth iawn. Nawr, rwy'n credu mae'n debyg bod rhai yn Llywodraeth y DU sydd eisiau gwneud y peth iawn, ond buont yn analluog i wneud y mathau o newidiadau sydd eu hangen mewn gwirionedd i ddatrys hyn, ac mae cynigion wedi'u gwneud.
Nawr, rwy'n gobeithio bod trefniant, ond gwelaf dri phosibilrwydd. Yr un cyntaf—a gobeithio nad oes neb yn mynd i ymyrryd, fel bod yn rhaid imi fynd yn ôl a dweud, 'Na, roedd pedwar posibilrwydd'—ond rwy'n gweld tri phosibilrwydd allweddol. Y gyntaf yw nad oes unrhyw gytundeb ar gymal 11. Felly, nid ydym yn gallu rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Felly, mae'n rhaid inni ymdrechu i ddiogelu buddiannau Cymru a'r setliadau datganoli. Yr ail bosibilrwydd yw bod cytundeb, y gallwn ni gytuno, ac, heb amheuaeth, bydd y Bil arfaethedig hwn yn cyfrannu'n sylweddol at gyflawni hynny, os caiff ei gyflawni. Ac os sicrheir y cytundeb hwnnw ar gymal 11, yna ni fydd angen parhau â'r Bil parhad, oherwydd bydd y trefniadau a'r grymoedd datganoli cywir wedi'u sefydlu.
Y dewis arall—a chredaf ei bod yn annhebygol, ond mae'n ddewis amgen trychinebus, ond nid oes dim y tu hwnt i anallu'r Llywodraeth bresennol sydd gennym ni yn San Steffan—yw y bydd y Bil ymadael yn methu am ryw reswm, ac y byddai hynny'n golygu na fydd gennym unrhyw drefniadau o gwbl yr eiliad yr ydym yn gadael yr UE o ran yr holl feysydd hynny yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw ar hyn o bryd. Yn fy marn i, byddai'n gwbl anghyfrifol i beidio â chyflwyno'r ddeddfwriaeth hon mewn gwirionedd, ac mae rhesymau da pam na chafodd ei chyflwyno, nid dim ond fy mod yn credu y buom yn y sefyllfa gryfaf—rydym wedi gweithio er mwyn ceisio dod i gytundeb ac rydym yn dal i wneud hynny—ond mae hefyd yn wir bod hyn yn galluogi'r Bil hwn bellach i gael dylanwad a dangos pa mor benderfynol yr ydym ni, a'r Alban, bod yn rhaid anrhydeddu'r trefniadau datganoli, y trefniadau cyfansoddiadol sydd gennym ni. Rhoddwyd addewid inni y byddent yn cael eu hanrhydeddu, ond, yn anffodus, mae'r Bil ymadael ar ei ffurf bresennol yn ffurf o ysbeilio cyfansoddiadol, lle mai'r unig addewid a roddir yw dweud, 'Rydym ni wedi dwyn eich pwerau a'ch cyfrifoldebau, ond peidiwch â phoeni, wrth inni redeg ymaith, byddwn yn eu rhoi nhw yn ôl ichi yn nes ymlaen.' Nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw'n dangos parch i'r Senedd a sefydlodd y setliadau datganoli, ac nid yw'n dangos parch i'r Llywodraethau datganoledig.
Mae anawsterau gyda hynny, mae problemau gyda hynny, ond mae'n rhaid dechrau ar y Bil parhad. Credaf, os nad ydym yn gwneud hyn heddiw ac yn ei basio, na fydd yn digwydd. A bydd hynny yn gwanhau ein sefyllfa negodi yn sylweddol, ac rwy'n dal i gytuno'n llwyr â safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet ein bod yn dal i obeithio y byddwn yn sicrhau cytundeb. Ond gadewch i ni fod yn gwbl glir, os na allwn ni ddod i'r cytundeb hwnnw, os na allwn ni gyrraedd cyfnod lle dylid cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol, yna mae'n rhaid inni ddiogelu buddiannau Cymru, a dyna beth mae'r Bil hwn yn ei wneud.