Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn cynrychioli'r her fwyaf sylweddol a dyrys, yn gyfansoddiadol, yn gyfreithiol ac yn economaidd yr ydym ni yng Nghymru wedi'i hwynebu ers dyfodiad datganoli. Mae gan yr ansicrwydd sy'n amgylchynu'r broses a'r canlyniad y potensial i achosi niwed mawr i'n cenedl. Maint yr her, yr ansicrwydd parhaus, datblygiad cyflym digwyddiadau a'r peryglon posib sy'n gysylltiedig â Brexit sy'n ffurfio cefndir i'r cynigion a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn y prynhawn yma. Llywydd, mae'r rhain yn amseroedd hynod anarferol, a natur yr amseroedd hyn sy'n esbonio'r cynnig hynod anarferol bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cydsynio i Fil brys.
Fel y nodir yn y datganiad a gyflwynwyd ochr yn ochr â'r cynigion, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn, ers mis Mehefin 2016, fod canlyniad y refferendwm yn golygu ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd. Ond nid oedd y bleidlais i adael yr UE yn bleidlais i wrthdroi datganoli. Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth hon, ac ar y Cynulliad hwn, rwy'n credu, i sicrhau, wrth ymadael, fod buddiannau Cymru a'i phobl yn cael eu hamddiffyn cyn belled â phosib.