Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 6 Mawrth 2018.
Rwy'n ddiolchgar. Ynglŷn â'r union sylw hwnnw, mae wedi sôn am saib, am yr angen i edrych ar y creadur newydd hwn sy'n cael ei alw yn farchnad gyffredin y DU, ond, yn bwysicach fyth, pwy sy'n penderfynu a oes angen y saib hwnnw a phwy sy'n penderfynu a oes angen inni gadw'r pwerau yn San Steffan? Ai dim ond San Steffan, fel rwy'n tybio ei fod yn awgrymu, neu ai'r pedair gwlad yn cytuno ar hynny gyda'i gilydd? Os yw'n golygu y pedair gwlad, rwy'n cytuno ag ef, ond rwy'n credu ei fod yn awgrymu San Steffan.