Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hynod ystyriol hon? Caniatewch i mi ddechrau gyda'r cyfraniad diwethaf gan Mark Isherwood, a chadarnhau i Aelodau'r Cynulliad y byddaf yn wir yn mynd i gyfarfod gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ddydd Iau yr wythnos hon, ac y byddaf yn mynd i'r cyfarfod hwnnw yn yr ysbryd hwnnw y cyfeiriodd Mark Isherwood ato. Byddaf yn ceisio darganfod ffyrdd o lunio gwelliant rhyngom ni sy'n sicrhau parhad, fel bod modd trosglwyddo cyfraith yr UE i gyfraith ddomestig mewn ffordd drefnus, ond mewn modd sydd hefyd yn parchu datganoli yn y Deyrnas Unedig. Ac mi af i yno i wneud hynny mewn modd mor bendant a phwrpasol ag y gallaf.
Mae'r Bil hwn yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd os nad yw hynny'n llwyddo, ac rwyf eisiau troi at gyfraniad David Melding, oherwydd soniodd David Melding am ddau fater sy'n uniongyrchol berthnasol i'r ddadl. Roedd yn dadlau bod y system wirio briodol yn rhan o broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, mai'r hyn y dylem ei wneud yw dibynnu ar broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol—ac fe glywsoch chi Mark Isherwood yn dweud na fyddai ei blaid ef yn petruso am ennyd cyn pleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol os na fyddai Bil ymadael yr UE gan Lywodraeth y DU yn parchu datganoli. Ond y cwestiwn sydd gennyf i'w ofyn i'r Blaid Geidwadol yw: beth sy'n digwydd wedyn? Beth sy'n digwydd os yw'r ddeddfwrfa hon yn gwrthod rhoi cymhwysedd deddfwriaethol? Dywedodd Leanne Wood fod Llywodraeth y DU eisoes wedi anwybyddu, unwaith, gynnig cydsyniad deddfwriaethol a gafodd ei wrthod, ond nid ydyn nhw erioed wedi amharchu cynnig cydsyniad deddfwriaethol yr oedden nhw eu hunain wedi dweud ar y dechrau fod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Dywedasant nad oedd yn angenrheidiol o ran plismona, gan ddadlau nad oedd hynny wedi'i ddatganoli, ond mae Llywodraeth y DU ei hun wedi dweud bod angen cydsyniad y ddeddfwrfa hon. Felly, mae'n rhaid inni gymryd yn ganiataol, wrth dderbyn sylw David, os yw'r gwiriadau yn mynd i weithio mewn gwirionedd, petaem ni'n gwrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol, yna ni fyddai'r rhannau hynny o'r Bil sy'n effeithio ar Gymru bellach yn mynd rhagddynt, a ble byddai'r sicrwydd wedyn?