Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn yr un adroddiad, dywed fod plant, hyd yn oed cyn oedran ysgol, yn derbyn negeseuon ynghylch rhywedd, rhywioldeb a pherthnasoedd o amrywiaeth eang o ffynonellau, er enghraifft hysbysebion, llyfrau, cyfryngau cymdeithasol, teledu ac aelodau o'r teulu, ac ati. Buaswn yn dweud bod y rhan fwyaf o'r rhain naill ai o dan reolaeth rhieni neu y gallant fod o dan reolaeth rhieni, yn enwedig rhieni plant dan oed ysgol. Does bosibl nad oes gan rieni'r hawl i fagu eu plentyn yn unol â'u gwerthoedd a'u credoau eu hunain? Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd hawl gan rieni o hyd i eithrio eu plentyn o addysg rhyw a chydberthynas os ydynt yn teimlo nad yw'r cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas yn addas ar gyfer eu plentyn hwy?