Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 7 Mawrth 2018.
Wel, wrth gwrs, mae gan rieni hawliau a chyfrifoldebau, ond weithiau, mae'r materion y soniwch amdanynt y tu hwnt i reolaeth y rhiant. Pan oedd fy mhlant yn fach iawn, rwy'n cofio mynd i siop adnabyddus iawn ar y stryd fawr a gweld, yn y siop, fod y gwisgoedd ar gyfer gwisgo i fyny fel meddygon yn yr adran deganau bechgyn a'r adran wisgo i fyny ar gyfer merched yn cynnwys gwisg nyrs. Mae'r pethau hyn, weithiau, y tu hwnt i reolaeth rhieni.
O ran rôl a natur orfodol addysg rhyw a chydberthynas yn y dyfodol, rwyf wedi derbyn argymhelliad clir iawn gan Emma Renold. Mae'r adroddiad a ddatblygwyd ganddi ar fy nghyfer yn cael ei ystyried, a gobeithiaf allu dod i'r Siambr hon cyn bo hir gyda fy ymateb llawn i'r adroddiad hwnnw, gan amlinellu sut rydym yn bwriadu gwella addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gyfer ein holl blant a phobl ifanc yng Nghymru.