Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, mae gennych yr un ffigurau o'ch blaen â’r rhai rwyf innau wedi’u gweld. Fel y dywedoch, bu cynnydd cyson o ran categoreiddio yn Sir Fynwy, o dair ysgol werdd yn unig bum mlynedd yn ôl i 13 heddiw. Mae'r cynnydd hwn yn dyst i waith athrawon a phenaethiaid, a disgyblion, yn ogystal â’r awdurdod lleol a'r consortia rhanbarthol, wrth gwrs, sydd wedi rhoi cryn dipyn o gefnogaeth i benaethiaid dros y blynyddoedd diwethaf, o ran cynnig her a rhannu arferion gorau. Sut rydych yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg, a chonsortia eraill, i sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu rhannu rhwng y consortia yn ogystal ag yn fewnol?