Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 7 Mawrth 2018.
Wel, rwy'n falch fod yr un ffigurau gennym; ni fyddai wedi bod yn ddechrau cadarnhaol iawn pe bai gennym wahanol setiau o ddata categoreiddio. Rydych yn llygad eich lle, Nick, yn nodi bod gwella ysgolion yn ymdrech gyfunol, rhwng staff ac arweinyddiaeth ysgolion unigol, yr awdurdod addysg lleol. A hoffwn dalu teyrnged i'r Cynghorydd Fox, rwy’n credu, yng nghyngor Sir Fynwy—o bryd i’w gilydd, mae ef a minnau wedi cweryla ynghylch perfformiad Sir Fynwy, ond mae'r categoreiddio hwn yn dangos cynnydd—a'r consortia rhanbarthol hefyd. Mae'n bwysig fod y consortia rhanbarthol yn gweithio gyda'i gilydd i ddysgu oddi wrth ei gilydd er mwyn sicrhau set gyson o ddulliau o wella ysgolion ledled y wlad.