Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 7 Mawrth 2018.
Rwy'n falch o glywed eich bod wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Yn amlwg, mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi dweud bod pensiynau eu cydweithwyr mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill mewn prifysgolion ôl-1992, ysgolion, colegau addysg bellach, y GIG a'r Llywodraeth wedi'u tanysgrifennu a'u gwarantu gan y wladwriaeth, wrth gwrs, ac maent yn gofyn pam y dylai fod gan brifysgolion cyn-1992 y DU gynllun pensiwn heb unrhyw warant gan y Llywodraeth. Felly, hoffwn wybod pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i Lywodraeth y DU, ac yn wir, pa ymyriadau rydych wedi galw arnynt i'w cyflawni yn hyn o beth.