Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:41, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Fel rwyf wedi'i ddweud, Llyr, rydym wedi annog pob parti i ddychwelyd at y bwrdd, ac roedd penderfyniad y partïon i ddychwelyd at y bwrdd negodi gyda chymorth y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu yn galonogol iawn. Credaf mai dyna sy'n rhoi'r cyfle gorau inni ganfod ateb i'r broblem sylweddol hon. Fel y dywedais, mae'r rôl uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae yn hyn yn gyfyngedig i raddau, ond byddwn yn defnyddio ein holl allu i ddylanwadu er mwyn sicrhau bod y trafodaethau hyn yn llwyddiannus, ac rwy'n parhau i siarad â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar fyfyrwyr unigol.