Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 7 Mawrth 2018.
Yn amlwg, mae yna agwedd economaidd i'r camau gweithredu hyn, ond credaf fod mater moesol yn y fantol yma hefyd, gan fod hyn oll yn mynd rhagddo mewn cyd-destun lle mae is-gangellorion, wrth gwrs, yn derbyn cyflogau anferthol sy'n llawer mwy na chyflogau’r Prif Weinidog neu Brif Weinidog y DU yn San Steffan, hyd yn oed. Yn wir, datgelwyd yn ddiweddar fod oddeutu £8 miliwn wedi'i dalu mewn treuliau i brif swyddogion prifysgolion dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig. Rydych wedi dweud yn flaenorol y dylid cyfyngu ar gyflogau uwch swyddogion ac y dylid canolbwyntio hefyd ar ben isaf y raddfa gyflog. Felly, sut y mae hynny'n cyd-fynd â'r cynigion hyn ar gyfer pensiynau, a ystyrir yn ymosodiad uniongyrchol ar amodau gwaith y staff hynny?