Denu Myfyrwyr o Dramor i Brifysgolion Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:32, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae myfyrwyr o dramor yn werth mwy na £151 miliwn i economi Caerdydd yn unig. Efallai eich bod wedi gweld astudiaeth newydd gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch sy'n dangos bod buddion myfyrwyr rhyngwladol hyd at 10 gwaith yn fwy na'r gost. Felly, ar gyfer lleoedd fel Caerdydd, a dinasoedd a threfi prifysgolion eraill ledled Cymru, mae hon yn ffynhonnell wirioneddol bwysig o incwm, ond yn bwysicach na hynny, y bri a gawn a’r buddion yn y dyfodol o ganlyniad i’r ffaith bod pobl hynod fedrus wedi cael profiad mor groesawgar a deniadol mewn addysg uwch yng Nghymru. Felly, beth y byddwch yn ei wneud i sicrhau, wrth i broses Brexit fynd rhagddi, ein bod yn parhau i fod yn lle allweddol a chroesawgar iawn i fyfyrwyr tramor?