1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
2. What is the Welsh Government doing to attract overseas students to Welsh universities? OAQ51846
Diolch, David. Rydym yn cydweithio'n agos â Prifysgolion Cymru, British Council Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, drwy bartneriaeth Cymru Fyd-eang, i greu cyfleoedd cydweithredol a chefnogi rhagor o weithgarwch hyrwyddo, megis cyflwyno brand Astudio yng Nghymru mewn marchnadoedd allweddol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae myfyrwyr o dramor yn werth mwy na £151 miliwn i economi Caerdydd yn unig. Efallai eich bod wedi gweld astudiaeth newydd gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch sy'n dangos bod buddion myfyrwyr rhyngwladol hyd at 10 gwaith yn fwy na'r gost. Felly, ar gyfer lleoedd fel Caerdydd, a dinasoedd a threfi prifysgolion eraill ledled Cymru, mae hon yn ffynhonnell wirioneddol bwysig o incwm, ond yn bwysicach na hynny, y bri a gawn a’r buddion yn y dyfodol o ganlyniad i’r ffaith bod pobl hynod fedrus wedi cael profiad mor groesawgar a deniadol mewn addysg uwch yng Nghymru. Felly, beth y byddwch yn ei wneud i sicrhau, wrth i broses Brexit fynd rhagddi, ein bod yn parhau i fod yn lle allweddol a chroesawgar iawn i fyfyrwyr tramor?
Diolch, David. Cytunaf yn llwyr â’ch dadansoddiad o bwysigrwydd myfyrwyr rhyngwladol, ac yn wir, staff rhyngwladol a ddaw i astudio ac i weithio yn ein prifysgolion. Ac rwyf wedi dweud yn glir fod croeso cynnes i fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd, a thu hwnt, yng Nghymru ac y byddant yn parhau i gael croeso cynnes yng Nghymru. Mae gennyf newyddion da i'r Siambr: mae data UCAS ar israddedigion a dderbynnir yn llawn amser ar gyfer blwyddyn academaidd 2017-18 wedi dangos bod darparwyr yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn nifer y derbyniadau o'r UE er gwaethaf ansicrwydd mewn perthynas â Brexit, a'r nifer uchaf o dderbyniadau erioed o'r tu allan i'r UE. Yr hyn sy'n hollbwysig i mi yw ein bod yn parhau i bwysleisio wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig na ddylid cynnwys myfyrwyr rhyngwladol mewn unrhyw ystadegau mewnfudo a allai gael eu cyflwyno. Fel y clywsom ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, er fy mod yn credu bod y rheini yn yr Adran Addysg yn deall hyn, ac yn credu hyn, mae brwydr i'w hennill gyda'r Swyddfa Gartref.