Ariannu Ysgolion ym Mro Morgannwg

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:03, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf mai'r rheswm, Lywydd, pam nad yw'r ddeuawd hon yn gweithio—er ei bod wedi'i llwyfannu yn dda iawn, rwy'n gwybod, rwy'n cydnabod hynny—yw am fod Bro Morgannwg yn awdurdod hynod gystadleuol yn wleidyddol; mae wedi cael ei redeg yn ddiweddar gan weinyddiaethau Llafur a gweinyddiaethau Ceidwadol, gyda phleidiau eraill yn rhan o bethau yn ogystal â grwpiau annibynnol, ac mae pob un ohonynt yn bryderus ynglŷn â'r fformiwla ariannu ac wedi codi'r materion hyn. Pryd y byddwch yn adolygu'r sefyllfa, gan fod pryder trawsbleidiol ym Mro Morgannwg ynglŷn â'r sefyllfa bresennol?