1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu ysgolion ym Mro Morgannwg? OAQ51843
Diolch yn fawr iawn, Jane, am eich cwestiwn. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ariannu ysgolion yng Nghymru. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn pennu eu blaenoriaethau gwariant ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu, gan ystyried anghenion lleol a'r holl adnoddau sydd ar gael. Mater i'r awdurdod yw faint o arian y mae'n ei neilltuo ar gyfer cyllidebau ysgolion.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod Cyngor Bro Morgannwg wedi ysgrifennu at bob rhiant yn y sir ynghylch ariannu ysgolion. Diolch am eich ymateb i mi mewn perthynas â'r mater hwn. Mae eich llythyr i mi yn egluro nifer o bwyntiau mewn gwirionedd, ac rydych wedi eu nodi unwaith eto wrth ymateb i mi, ac mae'n egluro'r sefyllfa parthed rôl Llywodraeth Cymru ym mhenderfyniadau'r gyllideb ariannu ysgolion. Felly, yn eich llythyr i mi, rwy'n falch eich bod wedi gallu egluro rôl allweddol llywodraeth leol yn pennu'r cyllidebau ar gyfer eu hysgolion a rôl llywodraeth leol yn cytuno ar y fformiwla ariannu a'i hadolygu. Hoffwn ddyfynnu'n fyr o'ch llythyr dyddiedig 26 Chwefror. Rydych yn dweud,
Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn gyfrifol am bennu faint o arian a ddyrennir i'w ysgolion ac fel y dywedwch,
Mae faint o arian y mae Awdurdod yn ei neilltuo ar gyfer cyllidebau ysgolion yn fater ar gyfer yr Awdurdod hwnnw.
Dywedwch hefyd,
O ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Awdurdodau Lleol, dosberthir y cyllid refeniw craidd a ddarparwn yn ôl anghenion cymharol, gan ddefnyddio fformiwla sy'n ystyried cyfoeth o wybodaeth ar nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol yr awdurdodau. Datblygwyd y fformiwla ariannu hon mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Leol drwy'r Is-Grŵp Dosbarthu.
A ydych yn credu y byddai o gymorth pe bai eich llythyr, gan gynnwys y wybodaeth hon, yn cael ei anfon at bob rhiant ym Mro Morgannwg, neu o leiaf, ar gael ar wefan Bro Morgannwg? Ac a ydych hefyd yn croesawu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at gymuned ddysgu newydd yn Llanilltud Fawr a fydd yn agor yn swyddogol ar 22 Mawrth? Ac Ysgrifennydd y Cabinet—
Rwyf wedi bod yn oddefgar iawn, Jane Hutt. Rydych dros ddwy funud bellach. Cwestiwn olaf cyflym iawn.
Ac yn olaf, deallaf fod adroddiad cabinet diweddar gan Gyngor Bro Morgannwg yn dangos cyfraniad cyfalaf mwy gan Lywodraeth Cymru, a bod y cynlluniau ar gyfer 2017 ymlaen yn dangos gostyngiad gan gyngor y Fro o ran—[Torri ar draws.]
Wel, Lywydd, nid oes unrhyw amheuaeth fod hwn yn gyfnod heriol i gyllidebau addysg, ac ni phetrusaf rhag dweud hynny. Golyga hynny fod bod yn glir ynglŷn â'r ffeithiau a'r wybodaeth yn bwysicach nag erioed, ac mae'n drueni fod yr ohebiaeth gan y Fro i'w hysgolion a'u rhieni wedi camddehongli'r sefyllfa mewn perthynas ag ariannu ysgolion. Rwyf wrthi'n ymateb i bob llythyr a gefais gan rieni o Fro Morgannwg, er mwyn egluro'r sefyllfa, ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny eto heddiw.
Mewn perthynas ag arian craidd o dan y setliad llywodraeth leol, nid Bro Morgannwg—nid Bro Morgannwg—yw'r awdurdod sy'n derbyn y swm lleiaf o arian yng Nghymru, fel y byddent yn awyddus i'r rhieni gredu. Mae'n bosibl mai hwy yw'r awdurdod sy'n gwario'r swm lleiaf y disgybl, ond mater i'r cyngor yw hynny. Yr hyn sy'n fater i mi yw y gellir defnyddio'r adnoddau sydd gennyf yn ganolog i gefnogi addysg ym Mro Morgannwg.
Mae Bro Morgannwg yn elwa ar y grant amddifadedd disgyblion; maent hefyd yn elwa ar ein grant ar gyfer ysgolion bach a gwledig; maent hefyd yn rhan o'n cynllun peilot clystyrau cyflenwi sy'n seiliedig ar ysgolion; ac maent hefyd yn rhan o'n cynllun peilot ar gyfer rheolwyr busnes ysgolion. Mae adnoddau sylweddol wedi'u darparu ar eu cyfer o dan fand A rhaglen gyfalaf ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Rydym wedi amlinellu llawer iawn o adnoddau o dan fand B y rhaglen, ac fel y gwyddoch, y penwythnos diwethaf hwn, cyhoeddais £14 miliwn yn ychwanegol ar gyfer man atgyweiriadau i ysgolion, a bydd Bro Morgannwg yn derbyn dros £0.5 miliwn o'r swm hwnnw.
Fodd bynnag, mae'n rhaid imi fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud y buaswn yn eu hannog hefyd, hynny yw, Bro Morgannwg, i gyflwyno cynigion diwygiedig i gael mynediad at ran o'r ymrwymiad £36 miliwn i leihau maint dosbarthiadau babanod dros y tymor, gan nad yw'r hyn y maent wedi'i gyflwyno hyd yn hyn yn bodloni'r meini prawf, ac rwy'n awyddus iawn nad yw plant ym Mro Morgannwg yn colli'r cyfle hwn i leihau maint dosbarthiadau.
Credaf mai'r rheswm, Lywydd, pam nad yw'r ddeuawd hon yn gweithio—er ei bod wedi'i llwyfannu yn dda iawn, rwy'n gwybod, rwy'n cydnabod hynny—yw am fod Bro Morgannwg yn awdurdod hynod gystadleuol yn wleidyddol; mae wedi cael ei redeg yn ddiweddar gan weinyddiaethau Llafur a gweinyddiaethau Ceidwadol, gyda phleidiau eraill yn rhan o bethau yn ogystal â grwpiau annibynnol, ac mae pob un ohonynt yn bryderus ynglŷn â'r fformiwla ariannu ac wedi codi'r materion hyn. Pryd y byddwch yn adolygu'r sefyllfa, gan fod pryder trawsbleidiol ym Mro Morgannwg ynglŷn â'r sefyllfa bresennol?
Gadewch imi ddweud yn gwbl glir: nid yw'r fformiwla gyllid craidd yn fater i mi; mae'n fater ar gyfer fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ac ar gyfer y grŵp cynnal refeniw sy'n gyfrifol am hynny, ac sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut y mae'r grant cynnal refeniw yn cael ei ddarparu. Ar ddau achlysur gwahanol, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyfle i lywodraeth leol Cymru newid y data sylfaen, yn fwyaf diweddar yn 2014-15, ac ar y ddau achlysur, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gwrthod y cynnig i ddiweddaru'r data, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ac Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol edrych ar hynny eto. Ond mater ar gyfer llywodraeth leol, gan weithio ar y cyd, yw cytuno ar newidiadau i ddata sylfaen.
Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ51833] yn ôl, felly cwestiwn 8, Simon Thomas.