Ariannu Ysgolion ym Mro Morgannwg

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:59, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod Cyngor Bro Morgannwg wedi ysgrifennu at bob rhiant yn y sir ynghylch ariannu ysgolion. Diolch am eich ymateb i mi mewn perthynas â'r mater hwn. Mae eich llythyr i mi yn egluro nifer o bwyntiau mewn gwirionedd, ac rydych wedi eu nodi unwaith eto wrth ymateb i mi, ac mae'n egluro'r sefyllfa parthed rôl Llywodraeth Cymru ym mhenderfyniadau'r gyllideb ariannu ysgolion. Felly, yn eich llythyr i mi, rwy'n falch eich bod wedi gallu egluro rôl allweddol llywodraeth leol yn pennu'r cyllidebau ar gyfer eu hysgolion a rôl llywodraeth leol yn cytuno ar y fformiwla ariannu a'i hadolygu. Hoffwn ddyfynnu'n fyr o'ch llythyr dyddiedig 26 Chwefror. Rydych yn dweud,

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn gyfrifol am bennu faint o arian a ddyrennir i'w ysgolion ac fel y dywedwch,

Mae faint o arian y mae Awdurdod yn ei neilltuo ar gyfer cyllidebau ysgolion yn fater ar gyfer yr Awdurdod hwnnw.

Dywedwch hefyd,

O ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Awdurdodau Lleol, dosberthir y cyllid refeniw craidd a ddarparwn yn ôl anghenion cymharol, gan ddefnyddio fformiwla sy'n ystyried cyfoeth o wybodaeth ar nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol yr awdurdodau. Datblygwyd y fformiwla ariannu hon mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Leol drwy'r Is-Grŵp Dosbarthu.

A ydych yn credu y byddai o gymorth pe bai eich llythyr, gan gynnwys y wybodaeth hon, yn cael ei anfon at bob rhiant ym Mro Morgannwg, neu o leiaf, ar gael ar wefan Bro Morgannwg? Ac a ydych hefyd yn croesawu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at gymuned ddysgu newydd yn Llanilltud Fawr a fydd yn agor yn swyddogol ar 22 Mawrth? Ac Ysgrifennydd y Cabinet—