Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Mawrth 2018.
A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am ofyn y cwestiwn hwn? Oherwydd rwy'n frwd iawn fy nghefnogaeth i roi llaeth am ddim i blant mewn ysgolion, ac os oes modd, hyd nes eu bod yn gadael yr ysgol, ond dyna ni.
A gaf fi ddiolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am ddweud eich bod yn ymrwymo i ddarparu hynny? Ond ar ôl Brexit, pa ystyriaeth y byddwch yn ei rhoi i annog partneriaethau uniongyrchol rhwng ein cynhyrchwyr llaeth lleol, ein ffermwyr a'n hysgolion, fel y gall mwy o bobl gael budd ychwanegol o laeth lleol am ddim mewn ysgolion?