Darpariaeth Llaeth am Ddim mewn Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:08, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Janet, yn bennaf, rydym yn darparu llaeth i'n plant ysgol oherwydd y manteision maethol y mae hynny'n ei roi i blant. Ond wrth gwrs, mae iddo fantais ychwanegol i'r sector llaeth, ac fel y dywed Simon Thomas, gall ddarparu cyfle addysgol defnyddiol inni siarad â phlant ynglŷn â chynhyrchu bwyd cynaliadwy, o ble y daw eu bwyd, ac yn wir, cyfraniad cymdeithasol a hanesyddol ein cymuned ffermio i'n cenedl ac i'n sector llaeth yn arbennig.

Rwy'n edrych yn barhaus ar ffyrdd y gallwn gynyddu faint o gynnyrch lleol sydd ar gael drwy ein gwasanaethau prydau ysgol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i blant Cymru ddeall mwy ynglŷn ag o ble y daw eu bwyd.