Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 7 Mawrth 2018.
Leanne, fel y dywedais yn gynharach, rwy'n bryderus am y sector yng Nghymru, ac am fyfyrwyr unigol yr effeithir arnynt gan y streic. Rwy'n deall pam fod yr Undeb Prifysgolion a Cholegau yn teimlo nad oedd unrhyw ddewis arall ganddynt ond gwrthod gweithio, o ystyried y newidiadau arfaethedig i bensiynau eu haelodau, ac rwyf wedi cyfarfod yn rheolaidd ac wedi gohebu'n gyson â'r Undeb Prifysgolion a Cholegau, gan wrando ar eu pryderon a chynnig cymorth lle y gallwn. Rwyf hefyd wedi parhau i godi hyn gyda Prifysgolion Cymru a chydag is-gangellorion Cymru, gan eu hannog i ddychwelyd at y bwrdd a chael y trafodaethau manwl, gwir a gonest y cyfeiriwyd atynt gan Mick Antoniw, yn ogystal â gweithio'n agos gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar fyfyrwyr unigol.
Mae'n amlwg i mi fod y penderfyniad i ddychwelyd at y trafodaethau, a oruchwylir ac a drefnir gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu, yn gam ymlaen, ond mae angen inni wneud mwy i sicrhau y gellir cytuno ar ganlyniad addas ar gyfer yr unigolion yr effeithir arnynt yn y modd hwn.