1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
10. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael am y gweithredu diwydiannol presennol yn y sector prifysgolion yng Nghymru? OAQ51865
Mick, fel y dywedais yn gynharach, rwyf wedi cael nifer o drafodaethau dros yr wythnosau diwethaf gyda chynrychiolwyr y sector—yr undebau a'r cyflogwyr.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Onid yw'n drychineb fod degau o filoedd o staff prifysgol ledled y DU wedi gorfod mynd ar streic i wrthsefyll newid unochrog gan Universities UK i'w cynllun pensiwn, ac mewn rhai achosion bydd hynny'n golygu lleihau gwerth pensiynau hyd at 40 y cant? Ddydd Llun, Ysgrifennydd y Cabinet, cefais y fraint o ymuno ag aelodau o'r Undeb Prifysgolion a Cholegau ar y llinell biced. Roeddent yn gofyn am un peth: adolygiad annibynnol a fyddai'n arwain at drafodaethau dilys. A ydych yn cytuno bod hon yn alwad resymol, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i annog—a dywedaf eto, annog—trafodaethau dilys er mwyn dod â'r anghydfod hwn i ben?
Fel y dywedais wrth ateb y cwestiynau a ofynnodd Llyr Huws Gruffydd yn gynharach, mae Llywodraeth Cymru yn barod i ddarparu pa gymorth bynnag sy'n bosibl, sy'n angenrheidiol ac sydd ei angen i sicrhau negodi dilys a chadarnhaol rhwng y cyflogwyr a'r gweithwyr, ac rydym yn parhau i fod yn barod i wneud hynny. Rydym hefyd yn gweithio'n galed gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar fyfyrwyr unigol a all gael eu heffeithio gan y streiciau hyn.
Rwyf innau wedi bod yn cefnogi'r darlithwyr, nad oes unrhyw ddewis arall ganddynt ond mynd ar streic i warchod eu pensiynau, ac fe siaradais innau hefyd yn un o'u ralïau. Bydd y newidiadau pensiwn arfaethedig y mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau yn eu gwrthwynebu yn ergyd galed i bawb, ond byddant yn effeithio ar y darlithwyr hynny ar ddechrau eu gyrfaoedd, a byddant hefyd yn effeithio ar gontractau rhan-amser a rhai ar gontractau ansicr yn fwy nag ar unrhyw un arall. Mae'n anochel y bydd hyn yn arwain at anghydraddoldebau rhwng cenedlaethau a rhwng y rhywiau ymysg staff prifysgol, ac mae hynny'n annerbyniol.
A wnewch chi gondemnio'r newidiadau i gynllun pensiwn a allai olygu y bydd staff prifysgolion yn ymddeol mewn tlodi? Ac a ydych hefyd yn pryderu ynglŷn â'r effaith y gallai hyn ei chael ar y sector prifysgolion yng Nghymru, gyda llawer o'n darlithwyr disgleiriaf a mwyaf galluog yn ystyried eu dyfodol yn y sector hwn o ddifrif o ganlyniad i'r newid hwn?
Leanne, fel y dywedais yn gynharach, rwy'n bryderus am y sector yng Nghymru, ac am fyfyrwyr unigol yr effeithir arnynt gan y streic. Rwy'n deall pam fod yr Undeb Prifysgolion a Cholegau yn teimlo nad oedd unrhyw ddewis arall ganddynt ond gwrthod gweithio, o ystyried y newidiadau arfaethedig i bensiynau eu haelodau, ac rwyf wedi cyfarfod yn rheolaidd ac wedi gohebu'n gyson â'r Undeb Prifysgolion a Cholegau, gan wrando ar eu pryderon a chynnig cymorth lle y gallwn. Rwyf hefyd wedi parhau i godi hyn gyda Prifysgolion Cymru a chydag is-gangellorion Cymru, gan eu hannog i ddychwelyd at y bwrdd a chael y trafodaethau manwl, gwir a gonest y cyfeiriwyd atynt gan Mick Antoniw, yn ogystal â gweithio'n agos gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar fyfyrwyr unigol.
Mae'n amlwg i mi fod y penderfyniad i ddychwelyd at y trafodaethau, a oruchwylir ac a drefnir gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu, yn gam ymlaen, ond mae angen inni wneud mwy i sicrhau y gellir cytuno ar ganlyniad addas ar gyfer yr unigolion yr effeithir arnynt yn y modd hwn.