Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 7 Mawrth 2018.
Yn ogystal â thwf yn y sector rhentu preifat ers Deddf 1988, mae ansawdd cyffredinol eiddo wedi gwella. Mae rhai wedi priodoli hyn i ddiddymu prosesau rheoli rhent a chyflwyno adran 21, a roddai fwy o sicrwydd i landlordiaid dros adennill meddiant. Roedd y twf yn y sector rhentu preifat yn dilyn degawdau o ddirywiad. Er bod y system flaenorol o denantiaethau'r Ddeddf rhenti yn darparu llawer mwy o sicrwydd deiliadaeth, arweiniodd diffyg buddsoddiad landlordiaid oherwydd prosesau rheoli rhent cysylltiedig at dai o ansawdd gwael iawn. Rhaid inni wneud yn siŵr ein bod, wrth newid trefniadau hysbysiadau 'dim bai' yn osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Dyna pam rwyf wedi gofyn i fy swyddogion agor trafodaethau gyda'r sector rhentu preifat ar y mater hwn ac rwy'n falch o ddweud, yn dilyn y cyfarfod a gawsom gyda Julie, fod y trafodaethau hynny eisoes wedi dechrau.
Felly, oes, mae yna landlordiaid gwael o hyd ac nid yw pob tenant yn berffaith chwaith, ond rydym yn cymryd camau cadarnhaol. Mae Rhentu Doeth Cymru, a gyflwynwyd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, yn ei gwneud hi'n ofynnol i landlord basio prawf person addas a phriodol cyn cael trwydded ac i gael hyfforddiant gorfodol. Mae'r hyfforddiant wedi cael derbyniad da iawn gyda 96 y cant o'r bobl a'i cafodd yn dweud eu bod yn teimlo y byddai'r hyfforddiant yn eu gwneud yn landlord gwell. Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gwneud gwelliannau pellach. Bydd yn helpu i osgoi anghydfodau drwy sicrhau eglurder ynghylch hawliau a chyfrifoldebau, a bydd hefyd yn cyflwyno amddiffyniadau newydd sylweddol ar gyfer tenantiaid. Er enghraifft, bydd landlordiaid yn gorfod sicrhau bod cartrefi'n addas i bobl fyw ynddynt. Mae rhai hawliau cyfraith gyffredin nad ydynt yn amlwg ar unwaith i'r holl denantiaid ar hyn o bryd wedi cael eu gwneud yn statudol a byddant yn cael eu cynnwys ym mhob contract meddiannaeth. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i feddiannu'r annedd heb ymyrraeth gan y landlord.
Er bod y Ddeddf rhentu cartrefi yn darparu ar gyfer hysbysiad 'dim bai' sy'n debyg i adran 21, ceir gwahaniaethau pwysig. Er enghraifft, o dan y Ddeddf rhentu cartrefi, nid yw hysbysiad 'dim bai' ond yn ddilys am bedwar mis yn unig. Bydd hyn yn rhoi diwedd ar yr arfer presennol lle mae rhai landlordiaid yn cyhoeddi hysbysiad adran 21 ar ddechrau'r denantiaeth, fel eu bod yn gallu hawlio meddiant ar ôl dau fis ar unrhyw adeg yn y dyfodol. Mae'r Ddeddf rhentu cartrefi hefyd yn darparu amddiffyniad rhag troi allan dialgar lle mae landlord yn ymateb i gais atgyweirio drwy gyhoeddi hysbysiad meddiant 'dim bai'. O dan y Ddeddf 2016, gall y llys wrthod hawliad meddiant os yw'n fodlon fod y landlord yn ceisio osgoi gwaith atgyweirio. Felly, bydd gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi yn darparu amddiffyniad ychwanegol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod ei bod yn dal i ganiatáu i landlord gael meddiant ar ôl rhoi dau fis o rybudd. Felly, bydd y pryderon a glywsom yn ystod y ddadl hon heddiw yn dal i fod yn berthnasol iawn. Wrth geisio ymdrin â hwy, mae angen inni ystyried y perygl y bydd y canlyniadau anfwriadol hynny a grybwyllais yn gynharach yn codi.
Er enghraifft, lle y gall hysbysiadau adran 21 yn aml arwain at ddigartrefedd, mae'n bwysig nodi bod tua hanner yr holl aelwydydd digartref ar hyn o bryd yn cael eu hailgartrefu yn y sector preifat. Byddai angen rhoi ystyriaeth ofalus felly effaith bosibl diddymu hysbysiadau 'dim bai' ar barodrwydd landlordiaid i letya teuluoedd digartref a'r effaith negyddol ddilynol bosibl ar argaeledd llety. Dyna pam y mae'r trafodaethau gyda landlordiaid mor bwysig. Hefyd, yn ôl y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, cyhoeddir 52 y cant o hysbysiadau adran 21 oherwydd ôl-ddyledion rhent a 12 y cant oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Pe bai diddymu adran 21 yn arwain at fwy o hawliadau'n cael eu cyflwyno yn benodol ar sail ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallai hyn achosi problemau eraill megis mwy o drafferth dod o hyd i gartref newydd neu fethu cael credyd oherwydd dyfarniad llys sirol. Unwaith eto, mae'r rhain yn faterion y buaswn yn awyddus i fynd ar eu trywydd ymhellach gyda Shelter a Crisis ac eraill.
Tu hwnt i'r effaith bosibl ar ein gallu i fynd i'r afael â digartrefedd, byddwn yn dal i fod angen bod yn effro i'r effeithiau posibl ehangach eraill ar y sector rhentu preifat, gan gynnwys ar unrhyw barodrwydd i fuddsoddi a materion trawsffiniol posibl. Mae'r rhain oll yn faterion rwy'n edrych arnynt ar hyn o bryd a pham y mae'r trafodaethau gyda'r sector yn gyffredinol mor bwysig. Rwyf hefyd yn gwylio'r datblygiadau yn yr Alban, lle maent wedi diddymu hysbysiadau 'dim bai' yn ddiweddar, yn agos iawn. Yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf, cytunodd Julie, Dawn, Shelter a minnau i wneud gwaith pellach gyda'n gilydd i archwilio'r materion ac i ehangu'r sylfaen dystiolaeth er mwyn sefydlu sut i symud ymlaen yn y ffordd orau. Yn y cyfamser, rydym yn gallu gwneud, ac rydym yn gwneud llawer i liniaru effeithiau adran 21. Mae'r gwasanaeth Early Doors sy'n cael ei dreialu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn enghraifft dda. Mae'r gwasanaeth yn galluogi landlordiaid i gysylltu â darparwr cymorth os yw tenantiaid ar ôl gyda'u rhent ac yn rhoi cymorth dwys i denantiaid i helpu i'w hatal rhag cael eu troi allan.
Felly, mae'r ddadl heddiw wedi bod yn gymorth i godi proffil y materion sy'n ymwneud â throi allan 'dim bai' ymhellach, ac mae'n gyfraniad defnyddiol iawn i ysgogi'r hyn rwy'n gobeithio y bydd yn drafodaeth ehangach ar beth y gellir ei gyflawni drwy fesurau lliniaru ac o bosibl drwy newid deddfwriaethol i sicrhau bod ein sector rhentu preifat yn llewyrchus, o ansawdd uchel, ac yn deg i bawb.