Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 7 Mawrth 2018.
Gwnaf. Mae 'Ffyniant i Bawb', ein strategaeth genedlaethol, yn nodi ein bwriad i gymysgu nodau ac amcanion polisi lluosog. Mae'r dull partneriaeth hwn yn cynnig manteision i'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, a chyfrannu at dwf economaidd gan wella effeithlonrwydd a fforddiadwyedd gwasanaethau iechyd, a gwella lles dinasyddion ledled ein gwlad wrth gwrs.