2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru? OAQ51861
Gwnaf. Mae 'Ffyniant i Bawb', ein strategaeth genedlaethol, yn nodi ein bwriad i gymysgu nodau ac amcanion polisi lluosog. Mae'r dull partneriaeth hwn yn cynnig manteision i'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, a chyfrannu at dwf economaidd gan wella effeithlonrwydd a fforddiadwyedd gwasanaethau iechyd, a gwella lles dinasyddion ledled ein gwlad wrth gwrs.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich llongyfarch ar eich gwaith gyda'r sector fferyllol yng Nghymru, a chroesawaf y cyhoeddiad a wnaethoch yn gynharach heddiw yng nghynhadledd BioCymru 2018. Nid gweithgynhyrchu cyffuriau yw dyfodol y sector fferyllol yng Nghymru, ond ymchwilio i feddyginiaethau newydd. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi rhagor o gysylltiadau rhwng y sector fferyllol a phrifysgolion Cymru?
Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Mae hon yn adeg addas i allu trafod y sector gwyddorau bywyd, o gofio bod BioCymru 2018 yn mynd rhagddo drws nesaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac roeddwn yn falch o fod yno y bore yma i lansio'r achlysur. Ceir 365 o gwmnïau yn y sector gwyddorau bywyd ledled Cymru, ac maent yn cyflogi mwy na 12,000 o bobl mewn swyddi o ansawdd ar gyflogau da. Felly, mae'n sector hollbwysig i'n heconomi, ac rydym yn gweld busnesau gwyddorau bywyd yn ffynnu ledled Cymru mewn llawer o'n cymunedau. Felly, nid yw'n sector sydd wedi'i gyfyngu i un lleoliad penodol yng Nghymru yn unig.
Nawr, rwy'n falch o ddweud, o ganlyniad i Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd, fod prosiect £200 miliwn yn cael ei ddatblygu, sy'n cynnwys dau argymhelliad: creu pentref llesiant a gwyddorau bywyd yn Llanelli, a phrosiect campws gwyddorau bywyd a llesiant ar gampws Treforys ym Mhrifysgol Abertawe. Yr hyn sy'n hanfodol bwysig ynghylch y datblygiad hwn yw ei fod yn gorgyffwrdd yn berffaith â bargen ddinesig bae Abertawe, ac mae iechyd a lles, wrth gwrs, yn thema amlwg iawn yn y fargen honno. Nod y prosiect penodol hwnnw yw creu mwy na 1,800 o swyddi—unwaith eto, swyddi o ansawdd ar gyflogau da—dros y blynyddoedd sydd i ddod, a bydd yn darparu dros £460 miliwn o fudd i'r economi. Credaf mai dyma'r math o ymdrech gyfunol y mae angen ei ddyblygu ledled Cymru. Gwelwn ymdrechion yn y gogledd, yn y de-ddwyrain ac yn y gorllewin i ddod â'r byd academaidd a'r byd busnes at ei gilydd, a chredaf y ceir rhai enghreifftiau ardderchog yn y sector gwyddorau bywyd o ganlyniadau go iawn yn sgil hynny.
A gaf fi longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar dderbyn cyfrifoldeb am y bargeinion dinesig yn ei bortffolio yn awr? Rydych wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn, i ryw raddau, drwy hynny. Fe gyfeirioch chi at y campws gwyddorau bywyd a'r safleoedd yno. Rhan o'u rôl yw denu mewnfuddsoddiad i gysyniad y fargen ddinesig yn ei gyfanrwydd, os mynnwch. A fyddwch yn disgwyl i'r buddsoddiad hwnnw fod ar ffurf arian cyhoeddus yn ogystal â buddsoddiad preifat? Gwn fod cryn bwyslais, fel y dylai fod, ar fuddsoddiad preifat, ond o gofio y gallai ffynonellau cyllid yr UE gael eu colli, beth a wnewch i edrych ar lwybrau sector cyhoeddus amgen ar gyfer hynny?
Wel, rydym wedi addasu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i sicrhau mwy o orgyffwrdd rhwng yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned fusnes ac anghenion cleifion a phobl yng Nghymru. O ran y fargen ddinesig, credaf y byddai disgwyl, nid yn unig buddsoddiad sector preifat, ond hefyd y potensial i ddenu buddsoddiad sector cyhoeddus drwy'r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol. Unwaith eto, credaf fod bargen ddinesig Abertawe yn gyfle perffaith i hyrwyddo iechyd a lles fel blaenoriaeth, nid yn unig ar gyfer y rhanbarth ond hefyd fel blaenoriaeth ar gyfer Cymru gyfan.