Cefnogi Economi Sir Benfro

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:46, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Buaswn, a diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Credaf ei fod yn newyddion gwych. Mae prosiect £127 miliwn Valero, rwy'n credu, yn dangos hyder yn safle Sir Benfro ac yn economi ehangach Cymru. Mae'n ddiddorol bod y burfa yn un o ddim ond chwech busnes puro sydd ar ôl yn y DU ac mae wedi'i leoli wrth galon ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Mae'n dangos sut, drwy weithio gyda'n gilydd, y gallwn ddiogelu gwaith mewn sector gwerthfawr i nifer fawr iawn o bobl. Mae tua 1,000 o bobl yn dibynnu ar waith ar y safle hwn. Rwy'n falch iawn ein bod wedi bod yn rhan o'r newyddion cadarnhaol hwn i'r rhanbarth.