Cefnogi Economi Sir Benfro

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:45, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd Valero yn buddsoddi mewn prosiect £127 miliwn i greu uned gydgynhyrchu gwres a phŵer gyfunol yn eu purfa yn Sir Benfro. Bydd y prosiect yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y burfa a hefyd yn rhoi sicrwydd i dros 1,000 o weithwyr, ac yn helpu i roi hwb i economi Sir Benfro ac economi Cymru o ran hynny.

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Valero i helpu i sicrhau'r buddsoddiad hollbwysig hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn cytuno bod y buddsoddiad hwn yn amlwg yn dangos gwerth strategol ardaloedd menter fel ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau rydych yn awr wedi cytuno i'w ymestyn?