Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch, Lywydd. Mae masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau wedi bod yn ymarfer unigryw mewn sawl ffordd—unigryw o ran y broses ymgeisio, ond hefyd, yn anffodus, gan fod 50 y cant o'r cynigwyr wedi gorfod tynnu allan bellach. Mae hefyd yn unigryw ymhlith unrhyw ymarferion caffael rheilffyrdd mawr yn y DU gan na wnaed y gwahoddiad i dendro yn gyhoeddus. Mae hyn yn parhau i fod yn wir er gwaethaf y ffaith bod y tendrau terfynol wedi'u cyflwyno ar 21 Rhagfyr 2017. Ni ellir eu newid bellach, a dyna un o'r rhesymau pam y bu'n rhaid i Abellio dynnu'n ôl o'r broses. Mae'r diffyg tryloywder hwn wedi atal rhanddeiliaid rhag gwneud sylwadau ystyrlon ar ddyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet daflu rhywfaint o oleuni ar hyn i ni heddiw. A all gadarnhau bod y broses o drydaneiddio rheilffordd Glynebwy i Gaerdydd wedi ei diystyru, i bob pwrpas, ar gyfer cam 2 metro de Cymru, ac nad oes unrhyw ymrwymiad bellach chwaith i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg?