2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 7 Mawrth 2018.
Cwestiynau nawr gan Lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet, a Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Lywydd. Mae masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau wedi bod yn ymarfer unigryw mewn sawl ffordd—unigryw o ran y broses ymgeisio, ond hefyd, yn anffodus, gan fod 50 y cant o'r cynigwyr wedi gorfod tynnu allan bellach. Mae hefyd yn unigryw ymhlith unrhyw ymarferion caffael rheilffyrdd mawr yn y DU gan na wnaed y gwahoddiad i dendro yn gyhoeddus. Mae hyn yn parhau i fod yn wir er gwaethaf y ffaith bod y tendrau terfynol wedi'u cyflwyno ar 21 Rhagfyr 2017. Ni ellir eu newid bellach, a dyna un o'r rhesymau pam y bu'n rhaid i Abellio dynnu'n ôl o'r broses. Mae'r diffyg tryloywder hwn wedi atal rhanddeiliaid rhag gwneud sylwadau ystyrlon ar ddyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet daflu rhywfaint o oleuni ar hyn i ni heddiw. A all gadarnhau bod y broses o drydaneiddio rheilffordd Glynebwy i Gaerdydd wedi ei diystyru, i bob pwrpas, ar gyfer cam 2 metro de Cymru, ac nad oes unrhyw ymrwymiad bellach chwaith i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg?
Wel, yn gyntaf oll, rydym yn aros, neu rwyf yn aros, am werthusiad llawn o'r ddau gais am y fasnachfraint a datblygiad y metro. Byddai'n rhy gynnar i mi nodi pa brosiectau fydd yn mynd rhagddynt ac ar ba ffurf o fewn masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau a datblygiad y metro hyd nes y gwneir y dyfarniad. Ond buaswn yn dweud, o ran y broses dendro, ydy, mae hon yn broses unigryw, un nas cynhaliwyd yn unrhyw le arall yn y DU, ond rwy'n credu, fel y nododd Sion Barry yn y Western Mail ychydig wythnosau yn ôl, ein bod wedi gwneud y peth iawn wrth sicrhau bod pedwar ymgeisydd yn aros yn y ras. Cafwyd galwadau arnom i leihau nifer y cynigwyr i ddau. Credaf y byddai wedi bod yn embaras braidd pe bai hynny wedi digwydd, ac mai Arriva ac Abellio fyddai'r ddau ymgeisydd olaf, ac yna byddai Arriva wedi tynnu'n ôl ac Abellio wedi rhoi'r gorau iddi. Ond erys y ffaith bod gennym ddau gais o'r radd flaenaf yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. Maent wedi eu profi'n drylwyr, ac rydym ar y trywydd iawn i ddyfarnu'r fasnachfraint nesaf erbyn mis Mai eleni.
Wel, efallai y gallaf fod o gymorth i Ysgrifennydd y Cabinet yma, oherwydd mae rhai o'r atebion a ddarparwyd i ni bellach drwy'r asesiad amgylcheddol strategol y bu'n rhaid i Trafnidiaeth Cymru ei gynhyrchu ar fetro de Cymru, a'i gyhoeddi, o dan reoliadau Ewropeaidd, er heb fawr o gyhoeddusrwydd. Mae'r ddogfen hon, a'r mapiau ategol, yn cadarnhau bod prosiect trydaneiddio Glynebwy—a dyfynnaf yn uniongyrchol o'r deunydd a gyhoeddwyd bellach gan Trafnidiaeth Cymru—'wedi'i hepgor o ystyriaethau yn y dyfodol'.
Yn yr un modd, diystyrwyd y gwaith o gysylltu Trelewis â gerllaw Mynwent y Crynwyr, gan gysylltu llinellau Merthyr Tudful a Rhymni i greu rheilffordd cylch y Cymoedd, fel y'i gelwir, argymhelliad a gynigiwyd gan Mick Antoniw. Mae'n gwrthod estyniad o Ferthyr Tudful i Ddowlais Top, ond mae'n cadarnhau gwasanaeth rheilffordd ysgafn newydd sbon ar y stryd rhwng Parc Cathays a Bae Caerdydd, yn lle'r bws plygu presennol. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn cael £125 miliwn gan Lywodraeth y DU i'w wario ar y metro. Pan ofynnoch amdano, addawodd eich Llywodraeth y byddai'n cael ei ddefnyddio i drydaneiddio holl rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd. Rydych bellach yn canslo hynny, yn union fel y gwnaeth Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrydaneiddio i Abertawe, gan barhau i wario ar drên bwled ar gyfer y bae. Cyhuddwyd y Llywodraeth Geidwadol, yn hollol iawn, o fradychu'r bobl sy'n byw i'r gorllewin o Gaerdydd. Onid yw'r Llywodraeth Lafur bellach yn gwneud yr un peth yn union i bobl sy'n byw yn y Cymoedd i'r gogledd?
Nid yw hyn yn gywir. Yn bennaf oll, rydym wedi ymgynghori, a chyhoeddi, ar sawl achlysur, yr amcanion lefel uchel ar gyfer masnachfraint Cymru a'r gororau a datblygiad y metro. Bydd cynllun penodol y metro, a'r gwaith o adeiladu'r metro, yn digwydd wedi i'r dyfarniad gael ei wneud. Ond yr hyn sydd bwysicaf yw bod y teithwyr yn gweld gwelliannau mawr yn y gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer. O ran trydaneiddio, ni allwn ddweud, hyd nes y gwneir y dyfarniad, beth yw'r atebion penodol ar gyfer pob un o'r rheilffyrdd yn ardal y metro. Felly, mae'n rhy gynnar i dybio nad yw'r broses o drydaneiddio holl reilffyrdd y Cymoedd wedi'i chynnwys yn unrhyw un o'r ceisiadau. Ni allaf ddatgelu beth sydd yn y ceisiadau, ond ni ellir dyfalu beth sydd ynddynt ar hyn o bryd.
Ysgrifennydd y Cabinet, dyfynnaf o fapiau eich awdurdod, Trafnidiaeth Cymru. O dan 'coch', mae'n dweud,
Wedi'i hepgor o ystyriaethau yn y dyfodol ar hyn o bryd.
Rwy'n dyfynnu o ddatganiad eich awdurdod trafnidiaeth eich hun ar y pynciau hyn. Mae'n wir, wrth gwrs, y bydd rhywfaint o'r arian rydych wedi'i gael yn cael ei wario ar reilffyrdd y Cymoedd. Yn ôl yr un ddogfen, mae posibilrwydd y bydd rheilffyrdd craidd presennol y Cymoedd yn cael eu troi'n rheilffyrdd ysgafn. Ond unwaith eto, mae hwnnw'n bolisi y dylem ei drafod, oherwydd bydd rhai yn teimlo nad yw rheilffordd ysgafn yn briodol yn yr holl amgylchiadau—dros bellteroedd maith, er enghraifft, lle mae angen i drenau deithio'n gyflymach na 45 mya. Bydd yn datgysylltu rheilffyrdd craidd y Cymoedd oddi wrth y rhwydwaith rheilffyrdd trwm cenedlaethol, ac ni fydd modd cael unrhyw gerbydau nwyddau neu wibdeithiau, neu drenau trwodd, er enghraifft, i faes awyr Caerdydd byth eto. Er, dylwn nodi eich bod hefyd wedi diystyru cyswllt rheilffordd â maes awyr Caerdydd yn y ddogfen, ond ni ddywedwyd wrthym ynglŷn â hynny ychwaith. Pam na ddywedwyd wrthym am y penderfyniadau polisi hyn, fel y gallem eu trafod, ac fel y gall y bobl, gan mai eu gwasanaeth rheilffyrdd hwy yw hwn yn y pen draw— nid y Llywodraeth—ddweud eu barn ynglŷn ag ai dyma'r weledigaeth a'r blaenoriaethau roeddent yn dymuno'u gweld?
Gadewch i ni fod yn glir fod y broses o ddatganoli cyfrifoldeb a chyllid ar gyfer rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn mynd rhagddi, ac rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'r gwaith o uwchraddio rheilffyrdd craidd y Cymoedd fel rhan o weledigaeth y metro, er mwyn darparu teithiau mwy rheolaidd i bobl. Credwn fod pedair taith yr awr, o leiaf, yn addas o fewn ardal metro. Rydym wedi datgan hynny'n glir. Rydym wedi dweud yn glir y bydd gwelliannau ledled Cymru o ran capasiti, o ran amseroedd teithio a dibynadwyedd. Y tu allan i ardal rheilffyrdd craidd y Cymoedd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y seilwaith o hyd, ond hoffem pe bai hwnnw'n cael ei ddatganoli hefyd, cyn gynted â phosibl. Credaf fod y digwyddiadau dros yr ychydig wythnosau diwethaf, gyda'r difrod i'r fflansys ar echelau olwynion trenau, yn dangos pam fod angen inni sicrhau mwy o fuddsoddiad ar draws y rhwydwaith yng Nghymru. Ac am y rheswm hwnnw, credwn y dylid ei ddatganoli—dylid datganoli'r cyfrifoldeb. Ond o ran y metro, gallaf addo i'r Aelodau, gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau, fod ceisiadau'r ddau weithredwr o'r radd flaenaf yn awgrymu'n gryf y bydd newid i wasanaethau rheilffyrdd yn ardal y metro, a ledled y wlad.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, er iddo gael ei sefydlu yn 2013 i ddarparu mwy o werth i drethdalwyr Cymru, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi beirniadu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Nawr, ni all unrhyw un ddadlau nad yw wedi methu'n llwyr â darparu'r arbedion arfaethedig mewn gwariant cyhoeddus. Yn 2016-17, oddeutu 60 y cant yn unig o'r arbedion a ddisgwyliwyd a greodd, ac yn waeth byth, gwnaeth golled o oddeutu £2 miliwn yn 2015-16, ac yn 2016-17. Felly, a gaf fi ofyn pam fod polisi blaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella caffael cyhoeddus yng Nghymru wedi methu'n llwyr?
Nid cyfrifoldeb fy adran i yw hyn mewn gwirionedd. Cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ydyw.FootnoteLink Fodd bynnag, o ran y cynllun gweithredu economaidd, rydym wedi dweud yn glir, gyda'r contract economaidd, y gallem sicrhau cyfleoedd i ymestyn y contract economaidd—y £6 biliwn o gyfleoedd caffael ym mhwrs y wlad yng Nghymru. Dywedasom ein bod yn dymuno dadgyfuno cyfleoedd caffael a chontractau mawr fel y gall rhagor o fentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru gael rhan mewn prosiectau seilwaith gwerthfawr ledled y wlad.
Rwy'n derbyn yr hyn rydych wedi'i ddweud, ac wrth gwrs, rydych yn gyfrifol am y cynllun gweithredu economaidd, busnesau bach a chanolig a'r cadwyni cyflenwi sy'n elwa hefyd. Ffurfiwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru yn 2013. Pan wnaeth hynny, rhoddwyd benthyciad o £5.9 miliwn iddo, a phum mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi ad-dalu'r benthyciad hwnnw. Felly, hoffwn ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y gall y trethdalwr yng Nghymru ddisgwyl i'r arian hwnnw gael ei ad-dalu? Ac ymhellach, nid yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol bellach yn talu ei gostau rhedeg ei hun, er gwaethaf y ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd, Jane Hutt, wedi dweud y byddai'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn hunangyllidol erbyn 2016. Felly, pam fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian y trethdalwyr ar hyn o bryd i gynnal y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac i dalu ei gostau rhedeg bob blwyddyn, er gwaethaf y ffaith mai'r polisi gwreiddiol oedd y byddai'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn hunangyllidol erbyn 2016?
Unwaith eto, hoffwn gyfeirio'r mater hwn at sylw fy nghyd-Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb amdano. Rwy'n siŵr y gallai fy nghyd-Aelod Cabinet, Mark Drakeford, ddarparu atebion manwl i'r cwestiynau a ofynnodd yr Aelod.
Buaswn yn awgrymu bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn bolisi sydd wedi methu. Yn sicr, mae'n dreth barhaus ar bwrs y wlad. Byddaf yn dod at rai meysydd sy'n sicr yn rhan o'ch portffolio. Nid yw busnesau bach a chanolig Cymru a chadwyni cyflenwi Cymru yn elwa ar wariant caffael Llywodraeth Cymru. Yn 2015-16, 52 y cant yn unig o wariant Llywodraeth Cymru ar nwyddau a gwasanaethau a aeth i gwmnïau yng Nghymru, ac mae cynllun gweithredu economaidd newydd eich Llywodraeth, sy'n rhan o'ch cyfrifoldeb chi, wrth gwrs, hefyd wedi methu darparu unrhyw fap manwl ac ystyrlon ar gyfer gwella caffael cyhoeddus yng Nghymru. Felly, a gaf fi ofyn cwestiwn sy'n sicr yn rhan o'ch portffolio? Pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i'r gwaith o wella caffael cyhoeddus yn y cynllun economaidd diweddaraf?
Wel, mae hynny'n cael sylw yn y cynllun, fel y dywedaf, drwy'r broses o ddadgyfuno contractau mawr. Bydd hynny'n fuddiol iawn, o ystyried maint prosiectau seilwaith—yn enwedig ffyrdd. Ac rydym hefyd yn gweithio nid yn unig gyda chyrff diwydiant, ond hefyd gyda thimau sector o fewn y Llywodraeth, i nodi ffyrdd y gall busnesau weithio gyda'i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd sut i gael gafael ar gyfran fwy o wariant caffael yng Nghymru. Mae'r Aelod yn llygad ei le ei fod oddeutu 52 y cant ar hyn o bryd—cyfran y contractau a enillir gan fusnesau Cymreig—ond mae'r ffigur hwnnw'n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac rwy'n disgwyl, drwy'r mesurau a nodwyd yn y cynllun gweithredu economaidd, a chyda'r mesurau ychwanegol a amlinellwyd gennyf drwy ein cyswllt uniongyrchol â busnesau a sefydliadau busnes, y byddwn yn gweld rhagor o gynnydd dros y blynyddoedd i ddod.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod y DU ar frig rhestr Forbes o'r lleoedd gorau yn y byd i wneud busnes, beth yw sefyllfa Cymru o gymharu â hynny?
Wel, o ystyried y pryderon a fynegwyd yn ddiweddar gan Airbus, gan Ford a chan lawer o gwmnïau eraill, buaswn yn dychmygu, wrth inni adael yr UE, os nad ydym yn sicrhau'r fargen orau sy'n bosibl, bydd Cymru, ynghyd â'r DU gyfan, yn cael ei gadael ymhellach ar ôl.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Credaf y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon yn cydnabod y ffaith bod angen inni wella ein hymdrechion yn sylweddol os ydym am ddatblygu ein sylfaen fusnes a'n sylfaen fasnachol yng Nghymru, ac fel y trafodwyd yn y sesiwn gwestiynau ddiweddaraf, un o'r ffactorau allweddol i alluogi gwelliant yw addysg. Ni fydd dim yn gwneud mwy i ysgogi twf yn gynhenid ac ar gyfer mewnfuddsoddi na chynyddu ein sylfaen sgiliau, yn alwedigaethol ac yn academaidd. A yw'n peri pryder, felly, i Ysgrifennydd y Cabinet fod Prifysgol Caerdydd—y brifysgol sy'n perfformio orau yng Nghymru—yn safle 35 o 129 yn y DU, a bod gennym dair arall yn y 10 isaf?
Credaf ei bod yn deg dweud bod addysg uwch yn rhoi'r arfau strategol inni ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol yn y frwydr dros gystadleurwydd, tra bo addysg bellach yn darparu'r arfau tactegol. O ran addysg bellach, credaf fod gennym hanes balch iawn yn wir. Mae rhai o sefydliadau addysg bellach gorau Prydain gennym yma yng Nghymru. O ran ein hystâd addysg uwch, credaf fod gennym brifysgolion o'r radd flaenaf, gan gynnwys Caerdydd, ond credaf y gellir cyfrif Abertawe hefyd ymhlith goreuon y byd o ran ymchwil a datblygu, yn enwedig mewn perthynas â dur. Mae'r Aelod yn gywir i ddweud mai un o'r prif ysgogiadau sydd ar gael i ni ar gyfer gwella cynhyrchiant yw'r gwelliant i'r sylfaen sgiliau a'r llif o bobl fedrus sy'n dod drwodd i gefnogi busnes. Ond mae angen inni sicrhau hefyd fod arloesedd yn cael ei ledaenu'n well yng Nghymru. Rydym wedi dweud yn glir iawn ein bod yn disgwyl, drwy'r galwadau i weithredu—y prismau y byddwn yn sianelu ac yn ystyried buddsoddiadau drwyddynt yn y dyfodol—y bydd busnesau'n arloesi mwy ac felly'n gweithio'n agosach, nid yn unig gydag addysg uwch, ond gydag addysg bellach hefyd. Drwy wneud hynny, credaf y bydd modd inni wella ein rhagolygon a gwella ein lefelau cynhyrchiant dros y blynyddoedd i ddod.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac am ei hyder yn strategaeth economaidd y Llywodraeth. Ond mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach a'r byd busnes yn gyffredinol wedi cwyno ers tro ynglŷn â'r diffyg cysylltiad rhwng cyflogwyr a'r byd academaidd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod gennym bolisïau ar waith bellach i wella'r diffyg hwn?
Ydw. Buaswn yn dadlau bod busnesau erbyn hyn, yn fwy nag erioed o'r blaen, ac yn enwedig addysg uwch, yn gweithio'n agosach nag erioed, a gallwn gyfeirio at ddigonedd o enghreifftiau o hynny ledled Cymru. Heddiw, rwy'n falch o allu rhannu'r newyddion gyda'r Aelodau fod yr athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch wedi cael caniatâd cynllunio ym Mrychdyn. Byddwn yn gwario swm sylweddol o arian i ddatblygu'r cyfleuster penodol hwnnw, ond bydd yn denu buddsoddiad sylweddol o'r sector preifat yn ogystal â buddsoddiad addysg uwch. Drwy wneud hynny—dod â busnes a gweithgareddau Llywodraeth Cymru ac ymchwil addysg uwch ynghyd—rydym yn disgwyl i'r sefydliad hwnnw ddarparu oddeutu £4 biliwn o welliannau mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru. Mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol iawn, felly, i Lywodraeth Cymru ei wneud. Credaf ei fod yn dangos sut y gall buddsoddiad craff, sy'n dod â busnesau mawr a bach a'r byd academaidd ynghyd, arwain at fuddion sylweddol i'r economi.