Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 7 Mawrth 2018.
Ydw. Buaswn yn dadlau bod busnesau erbyn hyn, yn fwy nag erioed o'r blaen, ac yn enwedig addysg uwch, yn gweithio'n agosach nag erioed, a gallwn gyfeirio at ddigonedd o enghreifftiau o hynny ledled Cymru. Heddiw, rwy'n falch o allu rhannu'r newyddion gyda'r Aelodau fod yr athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch wedi cael caniatâd cynllunio ym Mrychdyn. Byddwn yn gwario swm sylweddol o arian i ddatblygu'r cyfleuster penodol hwnnw, ond bydd yn denu buddsoddiad sylweddol o'r sector preifat yn ogystal â buddsoddiad addysg uwch. Drwy wneud hynny—dod â busnes a gweithgareddau Llywodraeth Cymru ac ymchwil addysg uwch ynghyd—rydym yn disgwyl i'r sefydliad hwnnw ddarparu oddeutu £4 biliwn o welliannau mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru. Mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol iawn, felly, i Lywodraeth Cymru ei wneud. Credaf ei fod yn dangos sut y gall buddsoddiad craff, sy'n dod â busnesau mawr a bach a'r byd academaidd ynghyd, arwain at fuddion sylweddol i'r economi.