Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 7 Mawrth 2018.
Yn anffodus, dengys ffigurau gan y Local Data Company a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru mai Aberdaugleddau sydd â'r gyfradd uchaf o adeiladau manwerthu gwag yng Nghymru o hyd. Mae hon, wrth gwrs, wedi bod yn broblem hirdymor sydd angen cryn dipyn o gymorth. Ni fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet fod ardrethi busnes yn un ffactor sy'n atal busnesau rhag agor mewn lleoedd fel Aberdaugleddau. O dan yr amgylchiadau hyn, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'i gyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ynglŷn â'r mater hwn? Efallai y gall berswadio ei gyd-Aelod i ymrwymo i adolygu'r system ardrethi busnes er mwyn edrych ar bethau fel y lluosydd i sicrhau nad yw busnesau bach o dan anfantais ar y stryd fawr.