Cefnogi Economi Sir Benfro

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:44, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ymwybodol iawn o bryderon busnesau yn Sir Benfro, ac yn enwedig y pryderon sydd ganddynt ynglŷn ag ardrethi. Byddaf yn dwyn y pwyntiau a nodwyd gennych heddiw i'w sylw. Ond buaswn yn dweud, ledled Sir Benfro, ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y mentrau gweithredol dros y blynyddoedd diwethaf. Credaf fod cynnydd o oddeutu 10.6 y cant wedi bod yn nifer y busnesau yn Sir Benfro ers dechrau'r degawd. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod hefyd fod busnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes yn wynebu heriau anodd iawn, ac yn sicr, byddaf yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at y pryderon a nodwyd gan yr Aelod heddiw yn y Siambr.