Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 7 Mawrth 2018.
Gwrandewais yn ofalus iawn ar yr hyn oedd gan yr Aelod i'w ddweud. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ei bod yn hanfodol fod ystyriaeth ddigonol yn cael ei rhoi i adroddiad ymchwiliad er mwyn osgoi unrhyw gamau barnwrol dilynol. Mae'r arolygydd wedi ystyried 20 datganiad o gefnogaeth i'r cynllun a 160 o wrthwynebiadau. Mae'r arolygydd hefyd wedi ystyried 20 llwybr amgen fel rhan o broses yr ymchwiliad. Mae'r arolygydd wedi cyflwyno ei ystyriaethau ynghyd â'i argymhellion mewn adroddiad manwl i fy swyddogion. Gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn dod i benderfyniad ar y mater yn ystod y gwanwyn eleni.