2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
12. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon? OAQ51868
Diolch. Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried canfyddiadau ac argymhellion adroddiad yr arolygydd, a ddaeth i law yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus lleol, cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â'r cynllun y gwanwyn hwn.
Maddeuwch i mi am fynd yn fwy a mwy rhwystredig efo hyn. Mae hi’n hen bryd cael cyhoeddiad ynglŷn â chynllun y ffordd osgoi. Mae hi ddwy flynedd ar ei hôl hi yn barod, ac mi gefais addewid gennych chi y byddai yna gyhoeddiad yn y flwyddyn newydd. I mi, mae’r flwyddyn newydd wedi hen basio, ac rŷm ni rŵan ym mis Mawrth, a dal ddim wedi cael cyhoeddiad. Yn ogystal â lleihau tagfeydd traffig, mi fyddai’r ardal yn elwa’n economaidd o’r cynllun, ac fe ellid creu 40 o brentisiaethau yn fy ardal i yn syth petai yna gyhoeddiad yn cael ei wneud. Felly, a gaf i bwyso arnoch chi i gyhoeddi cychwyn y cynllun yma yn ystod yr wythnosau nesaf?
Gwrandewais yn ofalus iawn ar yr hyn oedd gan yr Aelod i'w ddweud. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ei bod yn hanfodol fod ystyriaeth ddigonol yn cael ei rhoi i adroddiad ymchwiliad er mwyn osgoi unrhyw gamau barnwrol dilynol. Mae'r arolygydd wedi ystyried 20 datganiad o gefnogaeth i'r cynllun a 160 o wrthwynebiadau. Mae'r arolygydd hefyd wedi ystyried 20 llwybr amgen fel rhan o broses yr ymchwiliad. Mae'r arolygydd wedi cyflwyno ei ystyriaethau ynghyd â'i argymhellion mewn adroddiad manwl i fy swyddogion. Gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn dod i benderfyniad ar y mater yn ystod y gwanwyn eleni.