Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, dros y penwythnos, tynnwyd sylw at y bwlch rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn y DU, a gorllewin Cymru oedd perthynas dlawd y DU. Rwyf wedi bod yn edrych ar ffyniant cymharol fy rhanbarth, ac rwyf wedi dod o hyd i fwlch mawr o tua £50 yr wythnos mewn enillion cyfartalog rhwng y rhai sy'n byw yno a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghanol De Cymru. Beth y bwriadwch ei wneud i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn a chau'r bwlch rhwng y gogledd a'r de?