2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
13. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu economaidd yn rhanbarth Gogledd Cymru? OAQ51847
Gwnaf. Bydd gweledigaeth economaidd newydd ar gyfer gogledd Cymru yn deillio o'r agenda ranbarthol sydd wedi'i chynnwys yn nogfen cynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb' Llywodraeth Cymru, gan integreiddio dyheadau cynnig twf gogledd Cymru ac ymgorffori a manteisio ar gyfleoedd sy'n gysylltiedig â sectorau allweddol, a Phwerdy Gogledd Lloegr wrth gwrs.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, dros y penwythnos, tynnwyd sylw at y bwlch rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn y DU, a gorllewin Cymru oedd perthynas dlawd y DU. Rwyf wedi bod yn edrych ar ffyniant cymharol fy rhanbarth, ac rwyf wedi dod o hyd i fwlch mawr o tua £50 yr wythnos mewn enillion cyfartalog rhwng y rhai sy'n byw yno a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghanol De Cymru. Beth y bwriadwch ei wneud i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn a chau'r bwlch rhwng y gogledd a'r de?
Wel, nid bwlch rhwng y gogledd a'r de yn unig ydyw. Rydym yn gweld anghydraddoldebau ym mhob cymuned, a rhwng y gogledd a'r de, rhwng y dwyrain a'r gorllewin, rhwng cymunedau sy'n ffinio â'i gilydd. Holl bwrpas y cynllun gweithredu economaidd yw datrys yr anghydraddoldebau hynny a chynnig swyddi o ansawdd uwch i bobl yn agos at eu cartrefi a darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i ddod o hyd i waith. Rwy'n credu bod yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Sefydliad Joseph Rowntree yn pwysleisio pa mor enbyd y mae goblygiadau cyni wedi bod, yn enwedig i aelwydydd incwm is—yn arbennig ar gyfer aelwydydd â phlant, oherwydd maent wedi colli cryn dipyn yn fwy yn ystod cyni o ganlyniad i ddiwygio lles a thoriadau i fudd-daliadau: mae'r aelwydydd sy'n ennill llai yn ein cymunedau wedi colli oddeutu 12 y cant o incwm net. Mae teuluoedd mawr yn cael eu taro'n arbennig o galed, gan golli oddeutu £7,750 y flwyddyn, neu un rhan o bump o'u hincwm net ar gyfartaledd. Credaf fod hyn yn gywilyddus. Byddwn yn mynd i'r afael â hyn, ac rydym yn mynd i'r afael â hyn, drwy newid y ffordd rydym yn gweithio, er mwyn darparu mwy o gyfleoedd gwaith o ansawdd uwch i'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad swyddi, neu i rai sydd mewn gwaith ac nad oes ganddynt yr adnoddau na'r potensial i ennill digon i allu byw'n gysurus drwy ganolbwyntio ar ddatblygu swyddi o ansawdd uwch a mwy o lwybrau gyrfa gwell yn y gwaith.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.