Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 7 Mawrth 2018.
Fel y gŵyr yr aelod—ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo am fynegi ei bryderon ar ran y Scarlets ac yn wir, yr holl ddilynwyr rygbi yng Nghymru, ond mae'n effeithio ar ei etholaeth ef yn arbennig—mae'r gystadleuaeth Pro14 yn cael ei rhedeg gan gorff o'r enw Celtic Rugby UK Limited, sy'n gwmni preifat wedi'i gyfyngu gan gyfranddaliadau, ac mae'n cynnwys, ymhlith ei berchenogion, Undeb Rygbi Iwerddon, Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi'r Alban a Ffederasiwn Rygbi'r Eidal, gyda bwrdd cyfarwyddwyr sy'n cynnwys dau gynrychiolydd a benodwyd gan bob undeb a chadeirydd annibynnol. Felly, yn amlwg, dylai'r bobl hyn fod yn ymwybodol iawn o ganlyniadau eu penderfyniad, wrth iddynt drafod y cynigion amrywiol.
Ein dealltwriaeth ni yw bod hwn yn gais ar y cyd gan BBC Cymru Wales, BBC Northern Ireland, BBC Alba ac S4C, ac fel y gwyddom yn awr, gwrthodwyd y cais, ond nid ydym wedi cael cadarnhad clir gan Pro14 ynglŷn â beth yn union yw'r trefniadau a roddir ar waith gan y cynigydd llwyddiannus. Yn sicr, rwy'n derbyn ei gais y dylwn gael trafodaethau pellach, yn ffurfiol os oes angen, ond yn sicr yn anffurfiol, gan y byddaf yn cyfarfod y cymeriadau dan sylw yn weddol fuan eto, fel y cyfarfûm â rhai ohonynt y bore yma, ac y byddwn yn cael y trafodaethau hynny i ni allu deall natur y penderfyniad hwn. Ond hefyd, i fynd ar ôl y pwynt y mae wedi'i wneud: pa ddarpariaeth y gellir ei gwneud i sicrhau bod y difrod yn cael ei gyfyngu o ganlyniad i'r penderfyniad hwn mewn perthynas â gallu gwylwyr yng Nghymru i barhau i gymryd rhan yn y gemau hanfodol hyn? Mae'n bosibl iawn y gall hynny fod ar ffurf y math o drafodaethau y deallaf efallai eu bod ar y gweill ar hyn o bryd rhwng S4C a'r cynigydd llwyddiannus, ynglŷn â faint o gemau a pha ganiatadau a gânt ganddynt i gael y cyfle i barhau i ddarlledu ar yr awyr ac ar-lein.