Effeithiau Storm Emma ar Gaergybi

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:06, 7 Mawrth 2018

Diolch am yr ymateb yna. Mi oeddwn i ym marina Caergybi ddydd Gwener, yn syth ar ôl y storm, ac mi oedd yr olygfa—llawer ohonoch chi wedi ei gweld hi ar y teledu ac ati—yn un wirioneddol dorcalonnus: dinistr llwyr yno. Wrth gwrs, mae yna lawer o gychod pleser personol yno, a rheini'n bwysig yn economaidd i'r ardal, ond mi oedd yna bymtheg o gychod masnachol yn y marina hefyd, a llawer o'r rheini wedi cael eu dinistrio neu eu difrodi yn rhannol.

Rŵan, mae'r holl fusnesau sy'n defnyddio'r marina yn rhan bwysig o economi forwrol Môn, ac o ystyried y pwyslais rŵan, o'r diwedd, diolch byth, ar ddatblygu strategaeth forwrol i Gymru, mi hoffwn i wybod pa fath o becyn cymorth y gall y Llywodraeth ei roi at ei gilydd i gefnogi y busnesau yma rŵan yn eu hawr o angen yn y byr dymor. Yn ail, yn edrych y tu hwnt i'r tymor byr, a gaf i ymrwymiad y gwnaiff y Llywodraeth helpu i ariannu gwaith ymchwil i'r angen posib am amddiffynfa i'r rhan yma o'r harbwr yng Nghaergybi yn y dyfodol? Fel is-gwestiwn i hynny, o bosib: a ydych chi'n cytuno bod yna rôl bwysig iawn i adran astudiaethau eigion Prifysgol Bangor yn y gwaith yma, yn cynnwys defnydd o'u llong ymchwil, y Prince Madog? 

Yn olaf wedyn, ac yn allweddol—rydych chi wedi cyfeirio ato fo—yn y byr dymor, rydym ni yn wynebu problem amgylcheddol ddifrifol yn sgil y storm. Rydw i'n deall nad oedd yna ormod o danwydd yn y llongau—bod y rhan fwyaf o hwnnw wedi cael ei gasglu, ond yn sicr rydym ni'n wynebu bygythiad mawr o ran llygredd yn dod o weddillion polisteirin y pontoons yn y marina. Mae yna fygythiad gwirioneddol yn dod gan bolisteirin. Roeddwn i ar wefan yr Institute for European Environmental Policy yn gynharach—yn sôn am y perig o fywyd môr yn bwyta olion polisteirin sy'n cael ei dorri'n ddarnau mân ac yn aros yn hir iawn, y perig pan mae hynny'n mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ac ati.

Mae cwestiynau wedi cael eu gofyn i fi a oedd ymateb asiantaethau Llywodraeth Cymru'n ddigon cyflym ar ôl y storm i'r perig llygredd yma. Mae pobl leol wedi cael eu siarsio i gadw oddi ar y creigiau, i beidio â chymryd rhan yn y gwaith llnau, ond mae llawer wedi dweud wrthyf i eu bod nhw'n teimlo bod rhaid iddyn nhw oherwydd eu bod nhw'n gweld diffyg swyddogion swyddogol, os leiciwch chi, yno yn gwneud y gwaith llnau. Ond beth bynnag ddigwyddodd ar y pryd, rŵan, bum niwrnod ymlaen, mi hoffwn i ddiweddariad ynglŷn â'r hyn sydd yn cael ei wneud i ddelio â'r llygredd yna a sicrwydd y bydd beth bynnag sydd ei angen yn cael ei wneud i sicrhau nad ydym ni'n wynebu mwy o'r dinistr amgylcheddol yma rydym ni wedi'i weld yn barod.