Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 7 Mawrth 2018.
Gwnaf. Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn cyhoeddi amrywiadau contract newydd i'r holl adeiladwyr tai sy'n defnyddio'r cynllun hwn, nid y pump mwyaf yn unig. Bydd y telerau newydd hyn yn cyfyngu ar y defnydd o Cymorth i Brynu—Cymru ar gyfer tai ar lesddaliad i amgylchiadau eithriadol. Bydd hefyd yn sicrhau bod y telerau lesddaliad ar gyfer unrhyw gartref Cymorth i Brynu—Cymru, gan gynnwys fflatiau, yn deg. Yn ogystal â hyn, mae pump o'r prif adeiladwyr tai wedi cytuno i beidio â marchnata unrhyw gartrefi newydd yng Nghymru fel lesddaliad, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.