3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gytundeb contract lesddaliad Llywodraeth Cymru gyda phump o’r prif adeiladwyr cartrefi? 152
Gwnaf. Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn cyhoeddi amrywiadau contract newydd i'r holl adeiladwyr tai sy'n defnyddio'r cynllun hwn, nid y pump mwyaf yn unig. Bydd y telerau newydd hyn yn cyfyngu ar y defnydd o Cymorth i Brynu—Cymru ar gyfer tai ar lesddaliad i amgylchiadau eithriadol. Bydd hefyd yn sicrhau bod y telerau lesddaliad ar gyfer unrhyw gartref Cymorth i Brynu—Cymru, gan gynnwys fflatiau, yn deg. Yn ogystal â hyn, mae pump o'r prif adeiladwyr tai wedi cytuno i beidio â marchnata unrhyw gartrefi newydd yng Nghymru fel lesddaliad, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Lywydd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi ymgyrch yn erbyn arferion lesddaliad annheg, rydym wedi gweld y mater hwn yn dod yn ffocws go iawn yng Nghymru hefyd. A gaf fi groesawu cyhoeddiad y Llywodraeth y prynhawn yma? Credaf ei fod yn bendant yn gam i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad yw'r cyhoeddiad hwn yn ymddangos fel maddeuant neu bardwn i'r cwmnïau tai mawr hynny sydd wedi bod yn gweithredu'r arferion ffiwdal hyn dros y 10 mlynedd diwethaf neu fwy. Yn wahanol i safbwynt Llywodraeth y DU, nid yw eich datganiad i'w weld yn darparu unrhyw obaith i lawer o bobl, pobl sy'n prynu am y tro cyntaf yn aml, sydd eisoes yn gaeth i'r system gamfanteisiol hon. Ac felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth clir ar y gwahanol ffyrdd y gallant gael iawn, ochr yn ochr ag adolygiad mewnol ehangach o'r system gymorth a chyngor sydd ar gael i lesddeiliaid lle mae arferion cyfredol yn mynd i barhau?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a buaswn yn dweud mai cychwyn yn unig ar fy uchelgais ar gyfer lesddeiliadaeth yw'r cyhoeddiad a wneuthum yr wythnos hon, a chychwyn ar y camau rwy'n bwriadu eu cymryd yn y maes hwn. Byddwch yn cofio ein bod wedi cael dadl wirioneddol addysgiadol a defnyddiol yma yn y Siambr ddiwedd mis Ionawr, ac fe ymrwymais bryd hynny i gyflwyno cynifer o gamau cynnar ag y gallwn, ac mae'r cyhoeddiadau a wneuthum yr wythnos hon yn driw i'r ymrwymiad a wneuthum bryd hynny, ond dechrau'n unig yw hyn.
Rwy'n ailadrodd nad wyf yn diystyru'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Rwy'n cydnabod y gallai fod angen deddfwriaeth er mwyn datrys y problemau ehangach ac i wneud lesddeiliadaeth, neu ddeiliadaeth amgen, yn addas ar gyfer y farchnad dai fodern. Er mwyn nodi ein ffordd ymlaen, rydym yn ymgysylltu â phrosiect Comisiwn y Gyfraith, sy'n edrych ar y mater hwn, a phan fyddwn wedi cael adroddiad Comisiwn y Gyfraith a'n hymchwil ein hunain a gomisiynais i'r mater hwn hefyd, byddaf yn gallu nodi'r camau nesaf. Ond yn y cyfamser, byddaf yn ystyried defnyddio pob un o'r llwybrau sydd ar gael i ni.
O ran cynorthwyo pobl sydd ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i'r cytundebau a wnaethant drwy'r contractau lesddaliad sydd ganddynt, rwy'n ymwybodol iawn o'r problemau hynny. Credaf fod pob un ohonom, bron bob dydd ar hyn o bryd—mae'n wir yn fy achos i, yn sicr—mewn cysylltiad dyddiol â phobl sy'n cael problemau ar hyn o bryd. Mae rhai pobl yn credu eu bod wedi cael cyngor gwael neu heb gael eu cynghori o gwbl o ran yr hyn y mae lesddaliad yn ei olygu iddynt, a dylent geisio cael iawn drwy'r dull sefydledig sy'n bodoli eisoes.
Gellir cyfeirio anghydfodau sy'n ymwneud â'r gost o brynu rhydd-ddaliad, cynnydd yn y rhent tir a thaliadau gwasanaeth—dyna'r pethau y mae pawb ohonom yn clywed amdanynt yn rheolaidd—at y tribiwnlys prisio lesddaliadau am ddatrysiad, ac mae'r gwasanaeth cynghori ar lesddaliadau mewn sefyllfa dda hefyd i helpu lesddeiliaid ac i helpu gyda'r dasg o ddiwygio lesddeiliadaeth yn gyffredinol yn ogystal. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau wedi'i sefydlu ers 20 mlynedd. Maent yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i lesddeiliaid, landlordiaid, cynghorwyr proffesiynol, rheolwyr ac eraill ar y gyfraith sy'n effeithio ar lesddaliadau preswyl yng Nghymru a Lloegr, a dylai pobl sydd â phryderon yn y maes gysylltu â hwy yn y lle cyntaf.
Ond fel y dywedais, cam cyntaf oedd y cyhoeddiad yr wythnos hon, a gellid cymryd rhai o'r camau cynnar a welais yn eithaf didrafferth, yn dilyn y trafodaethau a gawsom ym mis Ionawr.
Hoffwn ddiolch i David Melding am gyflwyno'r cwestiwn hwn oherwydd credaf y byddai wedi bod o fudd i ni gael datganiad llafar gan y Gweinidog ar hyn. Ond yn eich datganiad, fe ysgrifennoch na fyddai'r pum datblygwr y mae gennych gytundebau â hwy ond yn adeiladu lesddaliadau o dan amgylchiadau y bernir gennych chi eu bod yn gwbl angenrheidiol. Tybed a allech egluro'r hyn y byddech chi a'r datblygwyr hyn yn ei farnu'n gwbl angenrheidiol.
Mae fy ail bwynt yn ailadrodd yr hyn a ddywedodd David Melding AC hefyd. Un rhan fach yn unig o'r farchnad yw Cymorth i Brynu, ac rydym eisiau sicrwydd y bydd y rheini sydd eisoes yn gaeth i'r amgylchiad penodol hwn yn cael yr un hawliau â'r rhai sy'n rhan o'r cynllun Cymorth i Brynu.
Roeddwn am wneud y pwynt canlynol, yn deillio o'r hyn a ddywedwyd ddoe, rwy'n credu, gan Hefin David: rwy'n credu bod y ffioedd rheoli a orfodir mewn perthynas â lesddaliadau yn fom sy'n tician. Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn teimlo bod system ddwy haen ar waith, lle maent yn talu ffioedd rheoli i wneud yr un peth ag y maent yn talu eu treth gyngor i'w wneud, mewn perthynas â chynnal gerddi neu godi sbwriel. Felly, hoffwn i chi edrych ar hyn, yn nes ymlaen, yn ogystal ag ymhelaethu ar y datganiad rydych eisoes wedi'i wneud.
Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau hynny. Er eglurder, mae'r amgylchiadau eithriadol y cyfeiriwyd atynt yn y datganiad wedi'u hamlinellu yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967. Felly, maent yn cynnwys pethau fel tir sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Goron, awdurdod lleol neu yng nghyffiniau eglwys gadeiriol, ac mae hefyd yn cynnwys tir o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig lle mae'n bwysig diogelu'r tir a'r cyffiniau. Felly, yn ymarferol, yr hyn y mae'n ei olygu yw bod yn rhaid i unrhyw gais a gyflwynir sy'n gofyn am un o'r esemptiadau hynny i brynu neu i adeiladu eiddo lesddaliad drwy Cymorth i Brynu, gael ei ddwyn i sylw Llywodraeth Cymru, ac yna byddwn yn ceisio eglurhad er mwyn gweld a yw'r amgylchiadau eithriadol hynny'n gyfiawn yn ein barn ni. Byddwn yn gofyn am yr eglurhad hwnnw gan yr awdurdod lleol.
Bydd gofyn i unrhyw ddatblygwr sy'n cofrestru safle drwy Cymorth i Brynu—Cymru gyflwyno cynllun cyn datblygu, a bydd angen i hwnnw nodi'r ddeiliadaeth arfaethedig ac unrhyw resymau dros lesddaliad. Unwaith eto, byddem yn cael trafodaethau ynglŷn ag a ydynt yn dod o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 ai peidio.
Rhan fach yn unig o'r farchnad dai yng Nghymru yw'r cynllun Cymorth i Brynu—rydych yn iawn—a dyna pam rwy'n falch iawn, drwy ein rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai, ein bod wedi gallu sicrhau cytundeb y pum prif gwmni adeiladu tai yng Nghymru na fyddent yn marchnata cartrefi fel lesddaliadau mwyach, ac mae hynny'n wir am Cymorth i Brynu, ond hefyd am gartrefi eraill a adeiladwyd o'r newydd sy'n cael eu marchnata. Felly, croesawaf yr ymrwymiad hwnnw'n fawr iawn.
Fe sonioch chi hefyd am gwmnïau rheoli. Unwaith eto, dyma rywbeth y mae gennyf ddiddordeb mewn mynd ar ei drywydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y ddadl y byddwn yn ei chael yr wythnos nesaf, wedi'i chyflwyno, rwy'n deall, gan Hefin David, am gysylltiadau a hawliau pobl sy'n berchen ar eu tŷ fel eiddo rhydd-ddaliadol, ond fel rhan o ystâd, ac sy'n ddarostyngedig i lawer o'r un taliadau â phobl sydd ag eiddo lesddaliadol, drwy'r cwmnïau rheoli hyn.
Diolch i'r Gweinidog.