Darlledu Rygbi Rhanbarthol am Ddim

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:12, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod hwn yn benderfyniad masnachol, ond mae'r Llywodraeth yn bryderus iawn ynglŷn â'r penderfyniad na fydd unrhyw rygbi rhanbarthol am ddim yn cael ei ddarlledu drwy gyfrwng y Saesneg o'r tymor nesaf ymlaen. Rydym yn dal i ddisgwyl canlyniad negodiadau pellach sy'n effeithio ar ddarllediadau S4C drwy gyfrwng y Gymraeg ac wrth gwrs, y botwm coch a fyddai'n darparu darllediadau dwyieithog ar gyfer gwylwyr yng Nghymru.