Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ym mis Medi 2016, roedd dyn o'r enw Gary wedi rhedeg y rhan fwyaf o'r ras 5 km, Race For Victory, yng Nghaerdydd cyn cwympo ar ochr y ffordd mewn poen mawr, yn dioddef o ataliad y galon. Yn rhyfeddol, fe stopiodd calon Gary guro am saith munud. Yr help cyntaf i gyrraedd oedd uned ymateb ar feic St John Cymru, grŵp o wirfoddolwyr a lwyddodd i gael calon Gary i guro ar ei phen ei hun unwaith eto drwy ddefnyddio diffibriliwr. Roedd Gary'n ffodus fod popeth wedi dod at ei gilydd ar yr adeg iawn, gydag ymyrraeth gynnar a phobl gyda'r hyfforddiant a'r offer cywir wrth law. Llwyddodd gwaith St John Cymru i achub bywyd Gary.
Yr wythnos diwethaf, ar draws y wlad, buom yn dathlu ac yn nodi Dydd Gŵyl Dewi, diwrnod arbennig a balch i ni. Ond eleni, i lawer o bobl fel Gary, roedd iddo werth ychwanegol, gan ei fod yn nodi canmlwyddiant sefydlu Priordy Cymru o Urdd Sant Ioan, sefydliad rwy'n falch o fod yn aelod ohono. Sefydlwyd yr Urdd Sant Ioan wreiddiol dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl ar yr egwyddor y dylai ei haelodau drin a gofalu am bob person heb wahaniaethu ar sail hil, statws cymdeithasol neu rywedd. O'r sylfeini hynny, mae'r urdd wedi tyfu i fod yn rhan hanfodol o'n cymdeithas fodern.
Yma yng Nghymru yn benodol, mae'r sefydliad yn cynnwys tua 4,000 o wirfoddolwyr sy'n ymgymryd â gwaith yr urdd yn ddyddiol. Sefydlwyd priordy Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi 1918 i gydnabod gwaith ymroddedig yr adrannau yng Nghymru. Mae'n briodol ein bod yn nodi canmlwyddiant St John Cymru yn y Siambr hon heddiw, ac edrychwn ymlaen at y derbyniad rydych yn ei gynnal yn y Senedd fis nesaf, Lywydd.