Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 7 Mawrth 2018.
Ddoe, buom yn dathlu Wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy ddadorchuddio'r plac porffor cyntaf yng Nghymru er cof am yr Aelod Cynulliad Llafur dros Ddwyrain Abertawe, y diweddar Val Feld. Roedd Val Feld yn hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol cyn iddi ddod yn AC a chefnogai ddatganoli'n frwd fel trysorydd yr ymgyrch 'Ie dros Gymru' a arweiniodd at refferendwm 1997. Roedd Val yn gweld datganoli fel cyfle i wella cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru ymhellach. Heddiw, rwyf eisiau talu teyrnged i'r modd y llwyddodd Val i sicrhau adrannau 48 a 120 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a thalu teyrnged hefyd i Julie Morgan, yr Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd, a oedd yn AS ar y pryd, a gefnogodd y ddeddfwriaeth drwy Dŷ’r Cyffredin ac a weithiodd yn agos gyda Val Feld ar gymalau cyfle cyfartal. Gadewch i ni atgoffa ein hunain o'r cymalau yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998:
Adran 48
Cyfleoedd cyfartal wrth gyflawni swyddogaethau
Bydd y Cynulliad yn gwneud trefniadau priodol gyda'r bwriad o sicrhau bod ei swyddogaethau'n cael eu cyflawni gyda sylw dyladwy i'r egwyddor y dylid rhoi cyfle cyfartal i bawb.
Mae Adran 120, 'Cyfle cyfartal', yn ailadrodd hyn ac yn ychwanegu:
(2) Ar ôl pob blwyddyn ariannol bydd y Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad sy'n cynnwys—
(a) datganiad o'r trefniadau a wnaed yn unol ag is-adran (1) a oedd mewn grym yn ystod y flwyddyn ariannol honno, a
(b) asesiad o ba mor effeithiol y bu'r trefniadau hynny yn hyrwyddo cyfle cyfartal.
Wrth gwrs, diweddarwyd hyn yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i 'Weinidogion Cymru', sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau priodol hynny yn ogystal â chyhoeddi adroddiad bob blwyddyn. Mae'n ddyletswydd arnom i barchu'r ddeddfwriaeth hon ym mhopeth a wnawn, ac mae'n werth ailadrodd y cymalau hyn heddiw. Diolch yn fawr, Val Feld a Julie Morgan.